Student Promotions Assistant (Content Creation)
Job Description:
Student Promotions Assistant
If you are a student looking to gain experience in promoting the commercial ventures of a busy and diverse enterprise portfolio, then this could be the role for you. We are seeking students to work with the Students' Union Enterprise team to help promote the events and services offered by the Venues Department, Love Cardiff, and Cardiff Student Letting. You will get the chance to learn from industry professionals and grow your digital skills, as well as getting access to on-the-job training that will help your future career.
Main responsibilities:
- Helping plan, develop, capture, and create content across all social and digital platforms.
- Filming and editing reels and TikToks based on current trends; producing highly engaging content that fits with our brand in a timely manner.
- Helping to brainstorm ideas to promote campaigns and events.
- Supporting the Enterprise teams to deliver effective marketing campaigns across the organisation.
- Assisting with in-person promotional activity including planning and organising stalls at the SU and across campus, briefing promotional teams, setting up physical spaces and working on stalls to start conversations with students.
- Proof reading content to ensure accuracy across all communications channels.
- Writing engaging, on-brand copy for social and digital channels to promote a range of activities including events, services,and retail..
- Supporting the team to deliver market research to gain insight into the student population and gathering feedback through research and focus groups.
Availability: Hours will vary depending on tasks required each week, but we are looking for applicants who are able to commit to 1 day in the office each week (5 hours, 10:00-15:00). The role also includes evening and weekend work occasionally to cover events on socials.
Disgrifiad Swydd:
Cynorthwyydd Hyrwyddo Myfyrwyr -
Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n awyddus i ennill profiad o weithio gyda phortffolio menter brysur ac amrywiol yn hyrwyddo mentrau masnachol, efallai mai dyma’r rôl i chi. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr i weithio gyda thîm Menter Undeb y Myfyrwyr i helpu i hyrwyddo'r digwyddiadau a'r gwasanaethau a gynigir gan yr Adran Lleoliadau, Caru Caerdydd, ac Asiantaeth Gosod Eiddo Myfyrwyr Caerdydd. Byddwch yn cael y cyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a thyfu eich sgiliau digidol, yn ogystal â chael mynediad at hyfforddiant ar y swydd a fydd o gymorth i'ch gyrfa yn y dyfodol.
Prif gyfrifoldebau:
- Helpu i gynllunio, datblygu, cipio a chreu cynnwys ar draws pob platfform cymdeithasol a digidol.
- Ffilmio a golygu reels a TikToks yn seiliedig ar dueddiadau cyfredol; cynhyrchu cynnwys hynod ddiddorol sy’n cyd-fynd â'n brand mewn modd amserol.
- Helpu i gyfrannu syniadau i hyrwyddo ymgyrchoedd a digwyddiadau.
- Cefnogi timau’r Fenter i gyflwyno ymgyrchoedd marchnata effeithiol ar draws y sefydliad.
- Cynorthwyo gyda gweithgareddau hyrwyddo wyneb yn wyneb gan gynnwys cynllunio a threfnu stondinau yn Undeb y Myfyrwyr ac ar draws y campws, briffio timau hyrwyddo, sefydlu a gweithio ar stondinau, a dechrau sgyrsiau gyda myfyrwyr.
- Prawf ddarllen cynnwys i sicrhau cywirdeb ar draws pob sianel gyfathrebu.
- Ysgrifennu testunau deniadol, sy’n addas ar gyfer y brand ar gyfer sianeli cymdeithasol a digidol i hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys digwyddiadau, gwasanaethau a manwerthu.
- Cefnogi’r tîm i gyflawni ymchwil marchnad er mwyn cael mewnolwg ar boblogaeth y myfyrwyr a chasglu adborth trwy ymchwil a grwpiau ffocws.
Argaeledd: Bydd yr oriau’n amrywio yn dibynnu ar y tasgau sydd eu hangen bob wythnos, ond rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu ymrwymo i 1 diwrnod yn y swyddfa bob wythnos (5 awr, 10:00-15:00). Mae’r rôl hefyd yn cynnwys gwaith gyda'r nos a phenwythnosau o bryd i'w gilydd i gwmpasu digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.