Cynorthwyydd Dyfodol Myfyrwyr 2026/27
Hanfodol:
- Brwdfrydedd dros gefnogi myfyrwyr â’u cyflogadwyedd a thros gefnogi’r rheini sydd am astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor yn ystod eu hastudiaethau.
- Bod yn angerddol dros wneud gwahaniaeth, gan ddefnyddio creadigrwydd a menter i hyrwyddo a datblygu syniadau newydd yn ogystal â chyfrannu at brosiectau.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
- Sgiliau gwasanaethu cwsmeriaid rhagorol
- Y gallu i ymdrin â chwsmeriaid a chyflogeion eraill mewn modd proffesiynol
- Gweithio’n effeithiol mewn tîm
- Agwedd gadarnhaol, frwdfrydig a chroesawgar
Dymunol:
- Profiad o weithio mewn swydd gwasanaethu cwsmeriaid/sy’n ymwneud â myfyrwyr
- Y gallu i siarad Cymraeg
Y broses ymgeisio:
I wneud cais am y swydd hon, cyflwynwch y canlynol:
- CV
- Llythyr eglurhaol
- Fideo byr (dim mwy na 30 eiliad)
Gwneud cais drwy eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr https://cardiff.targetconnect.net/leap/jobs.html?id=156326&service=Careers+Service
Recordiwch fideo byr y gellid ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Dylai eich fideo:
- Hyrwyddo Dyfodol Myfyrwyr, neu
- Rannu awgrym defnyddiol ynghylch gyrfaoedd a allai helpu eich cyd-fyfyrwyr
Yn eich fideo, byddwn yn chwilio am rywun sy’n:
- Cyfathrebu’n glir ac yn hyderus
- Dangos creadigrwydd a brwdfrydedd i ennyn diddordeb myfyrwyr
- Cyflwyno’u hunain yn broffesiynol, cyfeillgar a hawdd mynd atoch
Cyflwynwch eich fideo gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://forms.gle/kjQ3acHQuzzDmXWv6
Sylwer:
- Bydd eich fideo yn cael ei wylio gan y panel recriwtio yn unig ac ni fydd yn cael ei rannu’n gyhoeddus.
- Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cyflwyno’r tair cydran yn cael eu hystyried.
Cyfweliadau:
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i ddod i gyfweliad wyneb yn wyneb, sydd wedi'i drefnu i'w gynnal ar un o'r dyddiadau canlynol: 12/06/2026 - 16/06/2026.
Hyfforddiant:
Os ydych yn llwyddiannus, bydd rhaid i chi dderbyn hyfforddiant gorfodol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 28/09/2026.
Dyddiad cau cyflwyno CV, llythyr eglurhaol a recordiad fideo: 10/05/2026
Gan ein bod yn disgwyl nifer fawr o geisiadau, mae’n bosibl y bydd y cyfnod ymgeisio am y swydd yn cau yn fuan.