Connect with a cause that needs you!

Tîm Creu Cynnwys - Tafwyl 2026

Cardiff City Centre
Part-time
Listed today

Mewn partneriaeth â Tafwyl, bydd grŵp o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn y cyfryngau a chyfathrebu yn cael profiad gwaith unigryw o weithio fel tîm creu cynnwys yn Tafwyl 2026. 


Bydd myfyrwyr yn gweithio fel tîm i gynhyrchu cynnwys ffres, gwreiddiol ac yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau digidol a newyddiadurol hanfodol i’r byd gwaith.


Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ennill profiad gwerthfawr ac unigryw yn gweithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr proffesiynol.

Diwrnodau:  20, 21 Mehefin 2026
Oriau: 10:00 -18:00 ar 20 a 21 Mehefin 
Lleoliad: Maes Tafwyl, Castell Caerdydd.

Disgrifiad:
Dyletswyddau allweddol:
• Ymchwilio a dod o hyd i straeon o ddiddordeb, cynnal cyfweliadau a defnyddio amrywiaeth o offer technegol i greu a chyhoeddi cynnwys digidol.
• Cydweithio gydag aelodau o'r cyhoedd, gan roi mwy o wybodaeth am y prosiect, y Brifysgol a JOMEC Cymraeg iddynt.
• Ymddwyn mewn modd proffesiynol.
• Gweithio yn effeithiol mewn tîm a chefnogi amcanion y prosiect ac aelodau eraill o'r tîm.

Dyletswyddau penodol:
• Dod o hyd i, ymchwilo, recordio ac ysgrifennu cyfweliadau a straeon o ddiddordeb.
• Mynychu cyfarfodydd dyddiol.
• Tynnu lluniau, ffilmio a defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ôl y gofyn.

Dyletswyddau cyffredinol:
• Deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob math o ddyletswyddau.
• Cadw at bolisi'r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
• Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond a fydd yn gyson â'r rôl.

Meini prawf hanfodol: 

 
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
• Siaradwr Cymraeg. Mae Tafwyl yn bennaf yn ddigwyddiad Cymraeg a bydd y rhan fwyaf o'r cynnwys yn cael ei gynhyrchu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm:
• Y gallu i ddelio â phobl a gweithwyr eraill mewn modd cyfeillgar, cwrtais a phroffesiynol ac yn gallu egluro syniadau cymhleth.
• Meddu ar ymagwedd gadarnhaol a hyblyg i weithio; 
• Meddu ar agwedd hyderus a phroffesiynol i gyd-weithwyr.
• Profiad o waith tîm - yn ddibynadwy, yn ddibynadwy ac yn brydlon.
• Bod yn wybodus am y prosiect a Phrifysgol Caerdydd.

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
• Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith eich hun.
• Y gallu i nodi problemau a phenderfynu pa brosesau a gweithdrefnau safonol y gellir ei ddefnyddio i'w datrys.

Arall:
• Argaeledd i weithio 20, 21 Mehefin a dod i rai cyfarfodydd cynllunio ymlaen llaw.

Meini prawf dymunol:
• Dealltwriaeth am Tafwyl, neu'r angerdd i gael gwybod mwy.


Sut i wneud cais:
Ysgrifennwch ddogfen fyr yn ateb y cwesiynau canlynol*:
1. Pa sgiliau a phrofiadau sydd gennych sy’n eich gwneud yn gymwys ar gyfer y cyfle hwn?
2. Rydym eisiau cynhyrchu cynnwys o dan y thema ‘Caerdydd’. Pa syniadau sydd gennych i’n helpu i greu'r cynnwys yma?

 

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus pasio prawf gyrru gydag Undeb y Myfyrwyr.