Connect with a cause that needs you!

Therapydd Galwedigaethol

39,000 per year
Swansea
Full-time
26th June 2026
Listed today

Oriau Gwaith:  37.5 awr yr wythnos, Dydd Llun - Dydd Gwener 09:00-17:00 gyda rhywfaint o hyblygrwydd

Contract: Cyfnod penodol hyd at fis Mai 2027. Gall y rôl hon fod yn secondiad.

Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith arloesol i gefnogi pobl ledled y wlad, ewch i wefan The Wallich.   Dysgwch ragor am The Wallich, prif elusen ddigartrefedd Cymru  www.thewallich.com/cy/wallich-amdanom-ni/ 

Disgrifiad o'r Prosiect

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n gweithredu ar draws Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe, gan weithio gyda phobl sydd â nifer o anghenion ac nad ydynt yn cael eu diwallu. Rydym ni’n dîm o weithwyr proffesiynol o wahanol sefydliadau sy’n dod at ei gilydd i ddarparu Asesiadau, Ymyriadau a Chymorth mewn un lle, a rydym ni’n ei alw’n Abertawe Castell-nedd Port Talbot 360. Ein nod yw cynnwys unigolion sy’n agored i niwed mewn gwasanaethau cymorth a’u cyfeirio at gymorth perthnasol. Rydym yn cynnwys staff sy’n dod o The Wallich, Crisis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Barod a Chyngor Ffoaduriaid Cymru sy’n cydweithio i roi’r cymorth gorau posibl i bobl ddigartref mewn sefyllfaoedd cymhleth.

Pwrpas y Swydd

Mae’r Therapydd Galwedigaethol yn darparu asesiadau ac ymyriadau arbenigol sy’n canolbwyntio ar alwedigaeth ar gyfer unigolion sy’n profi digartrefedd a nifer o anghenion cymhleth nad ydynt yn cael eu diwallu. Mae’r swydd yn canolbwyntio ar alluogi unigolion i ymgysylltu â gweithgareddau dyddiol ystyrlon, gwella diogelwch ac annibyniaeth weithredol, a lleihau rhwystrau i sefydlogrwydd tai, mynediad at wasanaethau iechyd, a chyfranogiad y gymuned.

Gan weithio ar y cyd mewn tîm amlddisgyblaethol, mae’r therapydd galwedigaethol yn darparu ei ymarfer hyblyg sy’n seiliedig ar drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar draws amgylcheddau allgymorth, galw heibio a gwasanaethau.

Mae’r swydd hon yn amodol ar ddatgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac mae trwydded yrru gyda cherbyd yn hanfodol.

Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau i lenwi’r swydd hon a gofynnwn yn garedig i asiantaethau beidio â chysylltu yn cynnig helpu gyda llenwi’r swydd hon. 

Dilynwch y ddolen isod i weld y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person. Cyfeiriwch at y wybodaeth hon wrth ysgrifennu eich eich CV a’r Llythyr Eglurhaol; trowch at ein

i gael awgrymiadau ar beth i'w gynnwys: Canllawiau Ymgeisio

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am y swydd hon yw 26 Mehefin 2026 am 09:00am.

Mae The Wallich yn cadw’r hawl i ddod â’r broses ymgeisio i ben yn gynnar os ydym yn derbyn digon o geisiadau. Felly, mae’n syniad da i chi gyflwyno eich cais yn gynnar.

Yn The Wallich, rydym wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi a gwella Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod gennym y gymuned orau bosibl. Mae lle bob amser i esblygu a gwella ac rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle gall yr holl staff ddod â’u hunain yn ddiffuant i’r gweithle. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau o bob cefndir ac os hoffech chi gael unrhyw gymorth gyda’ch cais neu i drafod unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi, cysylltwch â recruitment@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668 464