We are currently recruiting for a student staff member to join the busy Jobshop team, for the new academic year. The successful candidate will be required to work one to two 4-hour shifts per week, with the capacity to work more days during busier times (such as freshers’ week). The hours may decrease in quieter periods.
We envisage that this role will carry on during some vacation periods, so priority will be given to students based in Cardiff year-round.
The main purpose of the role will be to provide administrative support in the day-to-day running of the Jobshop service:
- booking student appointments
- dealing with enquiries by telephone/ email
- data entry
- other general administrative duties as required.
The successful candidate(s) will possess:
- excellent communication skills (written & verbal)
- strong IT skills (particularly Microsoft Office)
- be able to demonstrate solid experience in a customer service/ administration role.
This role will be office based, in the Students' Union.
Dates/times:
This role will start in September (depending on availability) and is ongoing until end of December 2026 in the first instance. It is likely this role will then be extended until the end of August 2027 but will depend on business needs.
Candidates will be required to work a minimum of one 4-hour shift per week (Monday - Friday) and have availability for a minimum of two days per week. Hours can be worked between 10am - 4pm each day.
There may be a requirement for more hours/ days during busier times.
Applications:
Please apply with:
- A covering statement, detailing why you think you are suitable for the role and any previous experience
- Your availability for the maximum days/ hours you could work each week (please clearly state the days of the week you can work; if you are yet to receive your timetable for 2026/27, please outline your anticipated contact hours per week)
- Your course and current year of study
- Whether you will be based in Cardiff all year round.
Successful applicants will be invited to an informal interview in early September - date TBC.
Rydym wrthi’n recriwtio aelod staff myfyrwyr i ymuno â thîm prysur SiopSwyddi, ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio un i ddau shifft 4 awr yr wythnos, a gallu gweithio mwy o ddiwrnodau yn ystod cyfnodau prysurach (er enghraifft wythnos y glas). Gall yr oriau leihau mewn cyfnodau tawelach.
Rhagwelwn y bydd y rôl hon yn parhau yn ystod rhai cyfnodau gwyliau, felly rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd drwy gydol y flwyddyn.
Prif ddiben y rôl fydd darparu cymorth gweinyddol wrth redeg y gwasanaeth Siop Swyddi o ddydd i ddydd:
- trefnu apwyntiadau ar gyfer myfyrwyr
- ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn/e-bost
- mewnbynnu data
- dyletswyddau gweinyddol cyffredinol eraill yn ôl y gofyn
Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar:
- sgiliau cyfathrebu rhagorol (ysgrifenedig a llafar)
- sgiliau TG cryf (yn enwedig Microsoft Office)
- y gallu i ddangos profiad cadarn mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid/gweinyddol
Mae’r rôl hon wedi’i lleoli mewn swyddfa, yn Undeb y Myfyrwyr.
Dyddiadau/Amseroedd:
Bydd y rôl hon yn dechrau ym mis Medi (yn dibynnu ar argaeledd) ac yn parhau tan ddiwedd mis Rhagfyr 2026 i ddechrau. Mae'n debygol y bydd y rôl hon yn cael ei hymestyn wedyn tan ddiwedd mis Awst 2027 ond bydd yn dibynnu ar anghenion y busnes.
Bydd gofyn i ymgeiswyr weithio o leiaf 4 awr y dydd (Llun - Gwener) a bod ar gael am oleiaf dau ddiwrnod yr wythnos. Gellir gweithio oriau rhwng 10yb – 4yp bob dydd.
Mae’n bosib y bydd angen mwy o oriau/diwrnodau yn ystod cyfnodau prysurach.
Ceisiadau:
Gwnewch gais gyda:
- Datganiad eglurhaol, yn manylu ar pam rydych yn meddwl eich bod yn addas ar gyfer y rôl ac unrhyw brofiad blaenorol
- Eich argaeledd ar gyfer y diwrnodau/oriau y gallech weithio bob wythnos (nodwch yn glir dyddiau’r wythnos rydych chi ar gael i weithio; os nad ydych wedi derbyn eich amserlen ar gyfer 2026/27 eto, amlinellwch eich oriau cyswllt disgwyliedig yr wythnos)
- Eich cwrs a'ch blwyddyn astudio gyfredol
- P'un a fyddwch wedi'ch lleoli yng Nghaerdydd drwy gydol y flwyddyn
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad anffurfiol dechrau mis Medi - dyddiad i'w gadarnhau.