Connect with a cause that needs you!

Gweithiwr Cymorth - Abertawe Castell-nedd Port Talbot 360

26,328.38 per year
Swansea
Full-time
18th June 2026
Listed today

Oriau Gwaith: 37.5 awr yr wythnos, Dydd Llun - Dydd Gwener 09:00-17:00 gyda rhywfaint o hyblygrwydd

Contract: Cyfnod penodol hyd at fis Mai 2027

Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith arloesol i gefnogi pobl ledled y wlad, ewch i wefan The Wallich.   Dysgwch fwy am The Wallich, prif elusen ddigartrefedd Cymru  https://thewallich.com/cy/wallich-amdanom-ni/

Disgrifiad o'r Prosiect 

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n gweithredu ar draws Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe, gan weithio gyda phobl sydd â nifer o anghenion ac nad ydynt yn cael eu diwallu. Rydyn ni’n dîm o weithwyr proffesiynol o wahanol sefydliadau sy’n dod at ei gilydd i ddarparu Asesiadau, Ymyriadau a Chymorth mewn un lle, a rydyn ni’n ei alw’n Abertawe Castell-nedd Port Talbot 360. Ein nod yw cynnwys unigolion sy’n agored i niwed mewn gwasanaethau cymorth a’u cyfeirio at gymorth perthnasol. Rydyn ni’n cynnwys staff sy’n dod o The Wallich, Crisis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Barod a Chyngor Ffoaduriaid Cymru sy’n cydweithio i roi’r cymorth gorau posibl i bobl ddigartref mewn sefyllfaoedd cymhleth.

Pwrpas y Swydd 

Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen ymgysylltu â’r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd ledled Abertawe Castell-nedd Port Talbot fel rhan o brosiect Abertawe Castell-nedd Port Talbot 360. Gan ddefnyddio egwyddorion Cyd-gynhyrchu a drwy weithio'n agos gyda Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, bydd y rhaglen yn cyfrannu at ddiwylliant sefydliadol cryf o gyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu. Bydd hefyd yn darparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai i unigolion agored i niwed - fel y rhai sy’n dioddef o ddigartrefedd, heriau iechyd meddwl, neu sy’n camddefnyddio sylweddau - mewn Tîm Amlddisgyblaethol cydweithredol. Y nod yw hyrwyddo annibyniaeth, cynnal tenantiaeth, a gwella llesiant. Bydd y swydd yn defnyddio dull allgymorth pendant i feithrin ymgysylltiad ac ymddiriedaeth o fewn y prosiect. Dyma’r nodau:

  • Datblygu a gweithredu cynlluniau cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr yn y Tîm Amlddisgyblaethol.

  • Rhoi cymorth ymarferol gyda cheisiadau am dai, cytundebau tenantiaeth, cyllidebu a sgiliau byw bob dydd.

  • Cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill i gydlynu cefnogaeth gyfannol.

  • Cynnal asesiadau risg a chyfrannu at brosesau diogelu.

  • Cefnogi cleientiaid drwy sefyllfaoedd argyfwng a thrawsnewidiadau, gan gynnwys rhyddhau o’r ysbyty neu lety symud ymlaen.

  • Cynnal cofnodion cywir a chyfrannu at adolygiadau ac archwiliadau gwasanaeth.

  • Ymgynghori â chleientiaid a’u cynnwys yn y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau

  • Defnyddio cydgynhyrchu i lywio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau ar bob cam ac ar bob lefel

  • Ymchwilio, datblygu, trefnu a darparu gweithgareddau ffurfiol ac anffurfiol i hwyluso cydgynhyrchu

  • Ymgorffori diwylliant o gyd-gynhyrchu a defnyddio'r egwyddorion i sicrhau bod unigolion â phrofiad byw yn cael cyfle cyfartal i fynegi eu barn ac yn ymwneud â dylunio a chyflawni pob agwedd ar y prosiect ac yn cael eu cynrychioli ar draws pob lefel.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).   

Sylwch: Mae trwydded yrru a cherbyd at eich defnydd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau i lenwi’r swydd hon a gofynnwn yn garedig i asiantaethau beidio â chysylltu yn cynnig helpu gyda llenwi’r swydd hon. 

Dilynwch y ddolen isod i weld y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person. Cyfeiriwch at yr wybodaeth hon wrth lenwi eich CV a’r Llythyr Eglurhaol; trowch at ein

i gael awgrymiadau ar beth i'w gynnwys: Canllawiau Ymgeisio

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am y swydd hon yw 18 Mehefin 2026 am 09:00am.

Mae The Wallich yn cadw’r hawl i ddod â’r broses ymgeisio i ben yn gynnar os ydym yn derbyn digon o geisiadau. Felly, mae’n syniad da i chi gyflwyno eich cais yn gynnar.

Yn The Wallich, rydyn ni wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi a gwella Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod gennym y gymuned orau bosib. Mae lle bob amser i esblygu a gwella ac rydyn ni’n ymdrechu i greu amgylchedd lle gall yr holl staff ddod â’u hunain yn ddiffuant i’r gweithle. Rydyn ni’n croesawu ac yn annog ceisiadau o bob cefndir ac os hoffech chi gael unrhyw gymorth gyda’ch cais neu i drafod unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi, cysylltwch â recruitment@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668 464