Connect with a cause that needs you!

Give it a Go Hiking Trip Leader | Arweinydd Teithiau Cerdded Rho Gynnig Arni 2026/27

Students' Union (Park Place)
Full-time
14th November 2026
Listed today

A fantastic opportunity to lead the Give it a Go hiking trips – the waterfall walk and Pen y Fan. This would suit an outdoor enthusiast with great communication skills who has a strong understanding of first aid and health and safety.  

Commitment  

There are a series of Waterfall Walks and Pen y Fan hikes planned as part of the Give it a Go programme on the following dates: 27th Sept, 18th October, 1st November, 8th November, 15th November.

Ideally, the successful candidate would be able to work on all of these dates but interested candidates should apply providing they can work at least one of the dates. In your application, please note the dates you are available. 

Attending a training session in the SU prior to starting work (between 1 hour – 2 hours). Time to be mutually agreed.   

For each trip, work would start at 9:30am and finish when the trip returns to the Students Union (Park Place) – this varies on the speed of the participants but is typically between 4pm – 5pm.  

You would need to be available prior to each trip for a briefing and after each trip for a debriefing. Ideally these would be in person (in the SU building) on the Friday before and Monday after the trip but there is flexibility to do these online or on different days as needed. These briefings/debriefings typically take between 15 – 45 minutes. 

Please note that these trips are weather and student-number dependent. Poor weather conditions or low numbers of attendees may lead to cancellation in the day or two leading up to the trip. In this case, we are often able to re-schedule.  

It is likely that there will be additional work in semester 2 for the right candidate.  

Job Description  

Responsible for health and safety on the trips 

Responsibility for management of GIAG volunteers on the trip. 

First aid if needed 

Giving a safety briefing to all students on the trip 

Overseeing the smooth running of the trip – taking attendance, making announcements on the microphone, speaking to students, working with coach drivers 

Ensuring that walkie talkies are set-up, distributed to volunteers and returned. Training volunteers on their use (training will be provided) 

Cyfle gwych i arwain teithiau cerdded Rho Gynnig Arni – y daith gerdded rhaeadr a Phen y Fan. Byddai hyn yn addas i rywun sy'n frwdfrydig dros yr awyr agored gyda sgiliau cyfathrebu gwych sydd â dealltwriaeth gref o gymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch.

 

Ymrwymiad 
Mae cyfres o Deithiau Cerdded Rhaeadr a theithiau cerdded Pen y Fan wedi'u trefnu fel rhan o raglen Rho Gynnig Arni ar y dyddiadau canlynol: 27ain Medi, 18fed Hydref, 1af Tachwedd, 8fed Tachwedd, 15fed Tachwedd.  

 

Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio ar yr holl ddyddiadau hyn ond dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb wneud cais cyn belled â'u bod yn gallu gweithio o leiaf un o'r dyddiadau. Yn eich cais, nodwch y dyddiadau yr ydych ar gael.

 

Mynychu sesiwn hyfforddi yn yr UM cyn dechrau gweithio (rhwng 1 awr a 2 awr). Amser sy’n addas i’w gytuno.

 

Ar gyfer pob taith, byddai'r gwaith yn dechrau am 9:30yb ac yn gorffen pan fydd y daith yn dychwelyd i Undeb y Myfyrwyr (Plas y Parc) - mae hyn yn amrywio yn ôl cyflymder y bobl ar y daith ond fel arfer mae rhwng 4 a 5yh.

 
Byddai angen i chi fod ar gael cyn pob taith ar gyfer sesiwn friffio ac ar ôl pob taith ar gyfer sesiwn adrodd yn ôl. Yn ddelfrydol, byddai'r rhain wyneb yn wyneb (yn adeilad yr UM) ar y dydd Gwener cyn a'r dydd Llun ar ôl y daith ond mae hyblygrwydd i wneud y rhain ar-lein neu ar ddiwrnodau gwahanol yn ôl yr angen. Mae'r sesiynau briffio/adrodd yn ôl hyn fel arfer yn cymryd rhwng 15 a 45 munud.


Sylwch fod y teithiau hyn yn dibynnu ar y tywydd a nifer y myfyrwyr. Gall amodau tywydd gwael neu nifer isel o fynychwyr arwain at ganslo yn y diwrnod neu ddau cyn y daith. Yn yr achos hwn, yn aml rydym yn gallu ail-drefnu.


Mae'n debygol y bydd gwaith ychwanegol yn semester 2 i'r ymgeisydd cywir.


Disgrifiad Swydd
Cyfrifol am iechyd a diogelwch ar y teithiau
Cyfrifoldeb am reoli gwirfoddolwyr RGA ar y daith
Cymorth cyntaf os oes angen
Rhoi briff diogelwch i bob myfyriwr ar y daith

Goruchwylio rhediad esmwyth y daith – cymryd presenoldeb, gwneud cyhoeddiadau ar y meicroffon, siarad â myfyrwyr, gweithio gyda gyrwyr bysiau
Sicrhau bod radio symudol yn cael eu gosod, eu dosbarthu i wirfoddolwyr a'u dychwelyd. Hyfforddi gwirfoddolwyr ar sut i'w defnyddio (darperir hyfforddiant)