Disgrifiad
Dogfennau atodol
Cyflogwr
Lleoliad
Diben y Swydd
Gweithio o dan arweiniad staff addysgu a/neu aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgol o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth. Byddwch yn cynorthwyo unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol. Byddwch yn cyfrannu at gylch cynllunio’r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu. Yn achlysurol, byddwch yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro, a phrif ffocws cyflenwi o'r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodir ac aros ar y dasg a chynnal trefn.
Meysydd Canlyniadau Allweddol
Cynorthwyo Disgyblion
• Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad (cwricwlar/dysgu) er mwyn cynorthwyo disgyblion.
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu cynlluniau cwricwlwm
• Sefydlu perthnasoedd pwrpasol â disgyblion ac annog disgwyliadau uchel o ran gwaith.
• Hybu cynhwysiant a derbyniad pob disgybl o fewn yr ystafell ddosbarth.
• Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthnasol, gan gynnwys ym meysydd cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, defnyddio’r toiled, bwyta a symudedd.
• Yn dilyn hyfforddiant, rhoi meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau ym mholisïau’r AALl a’r ysgol.
• Cefnogi disgyblion yn gyson gan gydnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
• Annog disgyblion i ryngweithio a gweithio ar y cyd ag eraill.
• Hyrwyddo annibyniaeth a defnyddio strategaethau i gydnabod a gwobrwyo hunanddibyniaeth a gyflawnir.
Cynorthwyo’r Athro
• Gweithio gyda’r athro wrth gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo’n briodol.
• Monitro a gwerthuso ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn amcanion dysgu a benderfynir o flaen llaw.
• Yn ôl y gofyn, rhoi adborth llafar ac ysgrifenedig i’r athro ynghylch cynnydd a chyflawniad disgyblion.
Cynorthwyo o ran y Cwricwlwm
• Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu a gytunir.
• Gweithredu rhaglenni sy’n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGCh.
• Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a geir mewn gweithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau perthnasol.
• Cefnogi’r defnydd o TGCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu gallu ac annibyniaeth disgyblion wrth ddefnyddio TGCh.
• Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
• Pennu’r angen am, paratoi a chynnal a chadw offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol.
Cynorthwyo’r Ysgol
• Bod yn ymwybodol o a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â chynhwysiant, diogelu plant, iechyd, diogelwch a sicrwydd, cyfrinachedd a diogelu data, gan adrodd ar unrhyw bryderon i berson priodol.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
• Sefydlu perthnasoedd pwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill, mewn cydweithrediad â’r athro, er mwyn cefnogi cyflawniad a chynnydd disgyblion.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd, gan gynnwys cyfarfodydd staff.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill yn ôl y gofyn.
• Cydnabod eich cryfderau a’ch meysydd arbenigedd eich hun a defnyddio’r rhain i roi cyngor a chymorth i eraill.
• Darparu arweiniad a goruchwyliaeth briodol a chynorthwyo mewn hyfforddiant a datblygu staff cymorth eraill fel y bo’n briodol.
• Ymgymryd â goruchwylio gweithgareddau dysgu y tu allan i oriau ysgol disgyblion fel y cynllunnir.
• Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau ac mewn gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol yn ôl y gofyn.
Cymwysterau a Phrofiad
NVQ3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol, e.e. Braille Lefel 2, BTEC Lleferydd ac Iaith, cymhwyster BSL Lefel 2
Profiad sylweddol o weithio gyda neu ofalu am blant o oedran perthnasol
Profiad o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
Sgiliau rhifedd/llythrennedd rhagorol.
Dealltwriaeth o egwyddorion prosesau datblygiad a dysgu plant
Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd neu feysydd penodol yn ymwneud â chlyw, iaith arwyddion, dyslecsia, TGCh, Mathemateg a Saesneg.
Mae Ysgol Gymraeg Ifor Hael yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.