Script Editing for Film (SIARADWYR CYMRAEG)
Tra bod y cwrs hwn wedi’i anelu at ymchwilwyr, darllenwyr sgriptiau a golygyddion sgriptiau dan hyfforddiant, mae’r cwrs hefyd yn agored i geisiadau o bobl sy’n chwilfrydig am yr adran sgriptiau ac yn teimlo bod ganddynt sgiliau trosglwyddadwy.
O fewn y cwrs yma, byddwch yn canolbwyntio ar y grefft ymarferol o olygu sgriptiau ar gyfer ffilmiau nodwedd, a realiti gweithio gydag awduron mewn cyd-destun datblygu. Mae’r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda deunydd Cymraeg, ond bydd yr holl ddysgu a’r trafod yn cael ei wneud yn Saesneg, gyda phwyslais arbennig ar yr ystyriaethau penodol sy'n gysylltiedig â golygu sgriptiau ffilm nad ydynt yn Saesneg. Byddwn yn croesawu gwesteion sy’n siarad Cymraeg o’r diwydiant sgrin drwy gydol y cwrs.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein a bydd yn cyfuno sesiynau sy’n cael eu dysgu gydag ymarferion ymarferol, tasgau darllen a gwylio, a gwaith grŵp ac mewn parau.