Connect with a cause that needs you!

Schools Engagement Trainer - Bilingual Welsh and English

46,789 per year
London
Full-time
27th April 2026
Listed today

Schools Engagement Trainer - Bilingual Welsh and English AF/1527

  • Location
  • Remote / London
  • Application Deadline
  • Monday, April 27, 2026
  • Deadline Time
  • 12:00 PM
  • Positions Available
  • 1
  • Vacancy Type
  • Fixed Term/Full Time
  • Working Hours
  • 35 hours per week
  • Salary
  • £46,789 per annum FTE, plus 6% contributory pension scheme
  • Job Documents
  • Proffil y Swydd / Job Profile

  • Job Summary
  • Ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth fel Hyfforddwr Ymgysylltu ag Ysgolion dwyieithog? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!Ready to make a difference as a bilingual Schools Engagement Trainer? We’d love to hear from you!

    Mae Anna Freud yn chwilio am

    Hyfforddwr Ymgysylltu ag Ysgolion(dwyieithog - Cymraeg a Saesneg) i ymuno â’n helusen iechyd meddwl flaenllaw ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Ein cenhadaeth yw cau’r bwlch o ran llesiant ac iechyd meddwl drwy hyrwyddo, trosi, darparu a rhannu’r wyddoniaeth a’r arferion gorau gyda phawb sy’n effeithio ar fywydau plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae rhagor o wybodaeth am Anna Freud ar gael ar eingwefan.

    Anna Freud is seeking a bilingual (Welsh and English)

    Schools Engagement Trainerto join our world-leading mental health charity for children, young people and their families. Our mission is to close the gap in wellbeing and mental health by advancing, translating, delivering, and sharing the best science and practice with everyone who impacts the lives of children, young people and their families. More information about Anna Freud is available on ourwebsite.

    Ein hymrwymiad i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant / Our EDI commitment

    Rydym wedi ymrwymo i feithrin gweithle amrywiol a chynhwysol a bod yn gyflogwr cyfle cyfartal, lle mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan greiddiol o’n harferion recriwtio. Bydd pob ymgeisydd sy’n bodloni meini prawf y swydd yn cael ei ystyried ar gyfer cyflogaeth, beth bynnag fo’i darddiad ethnig, ei grefydd neu gred, ei rywedd, ei gyfeiriadedd rhywiol, ei anabledd, ei oedran, ei gefndir economaidd-gymdeithasol, ei gyfrifoldebau gofalu a’i brofiad o ofal.

    Rydym yn gofyn i ymgeiswyr rannu eu dimensiynau amrywiaeth gyda ni i’n helpu i ganfod, mynd i’r afael ac atal rhagfarn ar draws cylch bywyd gweithwyr. Rydym yn credu bod gweithlu amrywiol yn gwella ein gallu i gefnogi iechyd meddwl a llesiant, ac yn ein galluogi i ddiwallu anghenion y plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd rydym yn eu gwasanaethu yn well.

    Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae ymgeiswyr anabl sy’n bodloni ein meini prawf yn sicr o gael cyfweliad. Mae ceisiadau’n cael eu cyflwyno’n ddienw a’u hasesu gan ddefnyddio proses werthuso deg sy’n seiliedig ar y meini prawf a nodir yn ein proffiliau swyddi.

    We are dedicated to fostering a diverse and inclusive workplace and being an equal opportunities employer, whereby equity, diversity, and inclusion (EDI) are core to our recruitment practices. All candidates who meet the job criteria will be considered for employment, regardless of ethnic origin, religion or belief, gender, sexual orientation, disability, age, socioeconomic background, caring responsibilities and care experience.

    We ask candidates to share their diversity dimensions with us to help us identify, tackle and prevent bias across the employee lifecycle. We believe a diverse workforce enhances our ability to support mental health and wellbeing, allowing us to better meet the needs of the children, young people and families we serve

    .

    As a Disability Confident employer, disabled candidates meeting our criteria are guaranteed an interview. Applications are submitted anonymously and assessed using a fair evaluation process based on the criteria set out in our job profiles.

    Beth rydym yn ei gynnig / What we offer

    Rydym yn cynnig amrywiaeth o

    fuddion i staff, gan gynnwys llwyfan cydnabod a gwobrwyo hollgynhwysol o'r enw Perkbox a chynigion llesiant fel gorffen yn gynnar ar ddydd Gwener a chwnsela am ddim drwy ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Rydym yn falch o gaelRhwydweithiau Amrywioldan arweiniad staff sy’n cynnig cyfleoedd unigryw i ddysgu, cysylltu a chael effaith. Mae’n gyfle gwych i ymuno â thîm amlddisgyblaethol angerddol sy’n gweithio ar brosiect arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

    We offer a range of

    staff benefits, including an all-in-one rewards and recognition platform called Perkbox and wellbeing offers such as finishing early on Fridays and free counselling through our Employee Assistance Programme. We are proud to have staff-ledDiversity Networksoffering unique opportunities for learning, connection and impact. This is a fantastic opportunity join a passionate, multidisciplinary team working on a ground-breaking evidence-based project funded by the Welsh Government.

    Beth fyddwch yn ei wneud / What you’ll do

    Byddwch yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant iechyd meddwl a llesiant o ansawdd uchel, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i staff ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys arwain y rhaglen Strategaethau Diogelwch a Llesiant (SSW). Byddwch yn darparu cymorth gweithredu parhaus i ysgolion, yn gweithio gyda chydweithwyr i ddylunio deunyddiau dysgu sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cyfrannu at gynlluniau datblygu’r Gymraeg, ac yn darparu hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb. Byddwch yn gweithio’n annibynnol ac yn teithio’n aml i ysgolion yng Nghymru (telir costau).

    You will develop and deliver high‑quality mental health and wellbeing training, in Welsh and English, to school staff across Wales, including leading the Strategies for Safety and Wellbeing (SSW) programme. You will provide ongoing implementation support to schools, collaborate with colleagues to design evidence‑based learning materials, contribute to Welsh‑language development plans, and deliver training both virtually and in person. Working independently and substantial travel to schools in Wales will be involved (with expenses covered).

    Beth fyddwch yn ei gynnig / What you’ll bring

    Byddwch yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac yn dangos gwybodaeth am anghenion myfyrwyr awtistig a’r rhai sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol neu iechyd meddwl. Mae’r gallu i feithrin amgylcheddau dysgu diogel a chefnogol i grwpiau amrywiol (gan gynnwys gweithwyr addysg proffesiynol, ymarferwyr a rhieni/gofalwyr a phobl ifanc) yn bwysig ar gyfer y swydd hon.

    Gofynion hanfodol:

    🎓 Cymhwyster ôl-raddedig gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ac achrediad proffesiynol (ee HCPC, BACP, BPS, BPC, BABCP).


    ✅ Profiad helaeth o gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc neu arwain ar lesiant mewn lleoliadau addysg.
    💬 Sgiliau Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig ac ar lafar, gyda gallu amlwg i gynllunio a darparu hyfforddiant o ansawdd uchel.
    🧑‍💻 Defnyddiwr TG hyderus, gan gynnwys Zoom a phecyn Microsoft Office (yn enwedig offer rhyngweithio cyflwyno a hyfforddi).
    🧠 Dealltwriaeth gadarn o systemau addysg ac iechyd meddwl y DU, gan gynnwys diogelu a llwybrau gwasanaethau plant a phobl ifanc.
    🚗 Parodrwydd i deithio ledled Cymru/y DU (gan gynnwys aros dros nos) a chymryd y rhan fwyaf o wyliau blynyddol yn ystod gwyliau’r ysgol.

    You will be bilingual (Welsh and English) and demonstrate knowledge of the needs of autistic students and those with social, emotional, or mental health difficulties. The ability to foster safe and supportive learning environments to diverse groups (including education professionals, practitioners and parents/carers and young people) is important for this role.

    Essential requirements:

    🎓 Postgraduate‑qualified mental health professional and professional accreditation (e.g., HCPC, BACP, BPS, BPC, BABCP).


    ✅ Extensive experience supporting children and young people in mental health or leading wellbeing in education settings.
    💬 Written and spoken Welsh and English language skills, with proven ability to design and deliver high‑quality training.
    🧑‍💻 Confident IT user, including Zoom and Microsoft Office suite (particularly presentation and training interaction tools).
    🧠 Strong understanding of UK education and mental health systems, including safeguarding and CYP service pathways.
    🚗 Willingness to travel across Wales/UK (including overnight stays) and take most annual leave during school holidays.

    Manylion allweddol / Key details

    Oriau:amser llawn (35 awr yr wythnos): yr oriau gwaith arferol yw dydd Llun i ddydd Gwener, 09:00-17:00, gan orffen yn hwyrach o bryd i’w gilydd.Cyflog: £46,789 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn, a chynllun pensiwn cyfrannol 6%.Lleoliad:gweithio hybrid (cymysgedd o weithio ar y safle/gartref gan weithio’n aml ar safleoedd ysgolion yng Nghymru). Bydd gofyn i chi ddod i’n swyddfa yn Llundain o bryd i’w gilydd: 4-8 Rodney Street, London N1 9JH.Math o gontract:cyfnod penodol, tan fis Mawrth 2029.Hours:full-time (35 hours per week): usual working hours are Monday to Friday, 09:00-17:00 with occasional later finishes.Salary: £46,789 per annum FTE, plus 6% contributory pension scheme.Location:hybrid working (a mixture of onsite/home working with substantial onsite work schools in Wales). Occasional attendance at our London office will be required: 4-8 Rodney Street, London N1 9JH.Contract type:fixed-term, until March 2029.

    Y camau nesaf / Next steps

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:12pm ddydd Llun 27 Ebrill 2026. Oherwydd y nifer fawr o geisiadau, byddwn yn cau’r swydd wag hon yn gynnar ar ôl i 50 o geisiadau ddod i law. Rydym yn eich annog i wneud cais yn brydlon ac i gadw llygad ar ein swyddi gwag yn y dyfodol i gael rhagor o gyfleoedd.Hysbysiad o gyfweliad:bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael gwybod erbyn dydd Iau 30 Ebrill 2026 fan bellaf. Wrth lunio rhestr fer, caiff ymgeiswyr eu hasesu’n ddienw gan ddefnyddio’r meini prawf sydd i’w gweld ym Mhroffil y Swydd. Sylwer: oherwydd y nifer fawr o geisiadau a ddaeth i law, ni fyddwn yn gallu rhoi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus.Cyfweliadau:byddant yn cael eu cynnal o bell ddydd Gwener 8 Mai a dydd Llun 11 Mai 2026.Sut mae gwneud cais:cliciwch ar y botwm ‘gwneud cais nawr’ i wneud cais ar-lein. Ni allwn dderbyn CVs a gofynnwn yn garedig i asiantaethau beidio â chysylltu â ni.Closing date for applications:midday (12pm), Monday 27 April 2026. Please note that due to high application volumes, we will close this vacancy early once 50 applications are received. We encourage you to apply promptly and to keep an eye on our future vacancies for more opportunities.Notification of interview:shortlisted applicants will be notified no later than Thursday 30 April 2026. During shortlisting, applicants are anonymously assessed using the criteria visible in the Job Profile. Please note: due to the high volume of applications received, we will not be able to provide feedback to unsuccessful applicants.Interviews:will be held remotely on Friday 8 May and Monday 11 May 2026.How to apply:click on the 'apply now’ button to apply online. We are unable to accept CVs and kindly request no contact from agencies.

    Cwestiynau? / Questions?

    Anfonwch e-bost i

    recruitment@annafreud.orggydag unrhyw ymholiadau am y swydd, os oes angen help arnoch chi neu os byddwch yn cael problemau wrth wneud cais. Sylwch y bydd gofyn i’r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ddangos tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU ar ôl cael cynnig y swydd - nid oes gennym drwydded noddi felly ni allwn ddarparu nawdd Visa.

    Please email

    recruitment@annafreud.orgwith any job enquiries, or if you require assistance or experience difficulties when applying. Please note that successful candidate(s) will be asked to evidence their Right to Work in the UK post-job offer – we do not hold a sponsor license therefore we are unable to provide Visa sponsorship.