Connect with a cause that needs you!

Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Chyfryngau

CYMDEITHAS CYFEILLION LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU
58,211 - 66,836 per year
Aberystwyth
Full-time
12th March 2026
Listed 1 week ago
Gweithio mewn partneriaeth

Chwefror 2026

Briff yr  Ymgeisydd

Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Chyfryngau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf y
genedl, yn ganolfan sy’n cadw cof Cymru ac yn sail i’w dyfodol deallusol. Wedi’i
sefydlu ym 1907 ac wedi’i lleoli yn Aberystwyth, mae’r Llyfrgell wedi bod, ers dros
ganrif, yn gasglwr, yn warcheidwad ac yn ddehonglydd treftadaeth ddiwylliannol
Cymru a thu hwnt.

Fel
llyfrgell adnau cyfreithiol, mae gan y sefydliad gyfrifoldeb cenedlaethol ac, i
raddau helaeth, rhyngwladol: casglu a diogelu llyfrau, llawysgrifau, mapiau, archifau,
delweddau a deunydd digidol sy’n adrodd hanes pobl, ieithoedd a syniadau. Ond
nid cadw’n unig yw pwrpas y Llyfrgell. Mae’n ymwneud â rhoi mynediad, ysbrydoli
ymchwil, a galluogi pobl i gysylltu â’u hunaniaeth a’u hanes eu hunain.

Mae gwerthoedd y Llyfrgell yn seiliedig ar wasanaeth cyhoeddus, cynhwysiant,
dwyieithrwydd ac arloesedd. Mae ymrwymiad clir i wneud casgliadau ar gael i bawb
– boed hynny drwy ystafelloedd darllen traddodiadol neu drwy lwyfannau digidol
sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd ledled y byd. Yn ganolog i’r weledigaeth hon mae
parch at yr iaith Gymraeg, ochr yn ochr â safbwynt rhyngwladol sy’n gosod Cymru
mewn cyd-destun ehangach.

Ar lefel strategol, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn canolbwyntio ar y meysydd
allweddol canlynol: diogelu casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, trawsnewid
digidol
i wella mynediad ac ymgysylltiad, a gweithio mewn partneriaeth â
chymunedau, sefydliadau ac ymchwilwyr. Trwy gyfuno traddodiad â dyfeisgarwch,
mae’r Llyfrgell yn parhau i fod yn sefydliad byw – nid yn unig yn adlewyrchu hanes
Cymru, ond yn helpu i’w lunio.

  2

Manylion y swydd

Yn gyffredinol, pwrpas y swydd bwysig hon yw arwain gweithgareddau cyfathrebu a hyrwyddo’r Llyfrgell er mwyn gwireddu gweledigaeth
Strategaeth 2025-2030 “Cysylltu Cymru a’r Byd” a Strategaeth Ymgysylltu “Dy Lyfrgell Di” 2026-2030.

Yn ogystal â hynny, bod yn gyfrifol am arwain ar drefnu ymgyrchoedd, rhaglenni digidol dychmygus a digwyddiadau mewn person sy’n denu
cynulleidfaoedd yn ogystal â gwasanaethu ystod eang o ddefnyddwyr, rhanddeiliaid, cwsmeriaid a phartneriaid ym mhob rhan o Gymru ac yn
rhyngwladol.

Byddwch yn rheoli gwaith ymgysylltu’r Llyfrgell gyda’r wasg a’r cyfryngau a bod yn Brif-olygydd ar dudalennau gwybodaeth a mynediad
Gwefan y Llyfrgell.

Mae sicrhau effeithiolwydd rhaglenni yr adran gyfathrebu trwy arwain a rheoli timau o fewn i'r Adran a chydweithio ar draws y sefydliad i
ffurfio amcanion, cynlluniau a pholisiau, gan sicrhau eu bod yn cael eu mesur yn effeithiol yn rhan bwysig o’r rôl.

I orffen, arwain a sicrhau bod gwasanaethau a gweithgareddau’r Llyfrgell yn cael eu datblygu a’u cynnal mewn modd sy’n rhoi’r defnyddiwr
wrth wraidd popeth gan roi’r ystyriaeth flaenaf i’w anghenion a phrofiad.

  3

Y  Gyfarwyddiaeth

Y Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu sy’n bennaf yn gyfrifol am wasanaethau mynediad y Llyfrgell a’i pherthnasoedd â’i
defnyddwyr a’i chwsmeriaid, gan sicrhau eu bod yn fuddiol ac ystyrlon.

Yn y cyd-destun hwn, mae mynediad yn golygu amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys gwasanaethau a gweithgareddau ar y
safle, ar-lein, ar draws cenedlaethau a chymunedau ym mhob rhan o Gymru, ac yn rhyngwladol. Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth yn rhan
greiddiol o wireddu gweledigaeth y Llyfrgell i fod yn sefydliad sy’n cydweithio â phobl Cymru i gadw, tyfu a rhannu cof a diwylliant y
genedl ac yn defnyddio ein casgliadau a’n harbenigedd i gysylltu â chymunedau, i gynyddu gwybodaeth a datblygu sgiliau a dysgu.

Cyfarwyddiaeth
Cyfathrebu ac
Ymgysylltu

Adran Cyfathrebu

Adran Ymgysylltu

  4

Dyletswyddau allweddol

Cynllunio strategol ac arweinyddiaeth:

Rheoli a datblygu cysylltiadau rhanddeiliaid:

• Datblygu a gweithredu strategaethau a pholisiau cyfathrebu sy'n cyd-fynd

• Adeiladu

a

chynnal

partneriaethau

â nodau ac amcanion y Llyfrgell.

• Darparu arweinyddiaeth a rheoli’r timau cyfathrebu, i gynnwys marchnata,

a digwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol, y wefan, ac ymholiadau.

• Cefnogi a gweithio’n agos gydag uwch reolwyr a staff eraill y Llyfrgell i

baratoi a chyflwyno digwyddiadau cyffrous ac effeithiol.

• Arwain ar y gwaith o ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau yn cynnwys gorolwg

ar ddatganiadau a hyrwyddo a datblygu brand y Llyfrgell.

• Cysylltu ag adrannau’r Llyfrgell a’u cynghori ar ddulliau marchnata a
hyrwyddo priodol er mwyn cyrraedd cynulleidfa darged. Yn atebol am
sicrhau ymgyrchoedd hyblyg, ymatebol ac arloesol.

• Arwain ar feysydd gwaith datblygu’r wefan a phrofiad cyntaf y defnyddiwr.

• Arwain ar y cyd gyda’r Pennaeth Ymgysylltu i sicrhau bod gwasanaethau a
gweithgareddau’r Llyfrgell yn ddefnyddiwr-ganolog, gan arwain yn
arbennig ar brofiad digidol defnyddwyr.

• Arwain ar y cyd gyda’r Pennaeth Ymgysylltu i bontio, cwmpasu a chyfannu
profiad yr ymwelydd a’r defnyddiwr ar draws y gofodau cyhoeddus ar
llwyfannau digidol, a thrwy gyfathebu a
safleoedd y Llyfrgell, ar ei
phresenoldebau ehangach.

• Gosod nodau, nodi dangosyddion perfformiad allweddol,

sicrhau
cysondeb ag amcanion cyffredinol y sefydliad trwy ddylunio, cynllunio,
mesur ac amlygu traweffaith gwasanaethau a gweithgareddau cyfathrebu.

a
i

pherthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allweddol
ddeall eu hanghenion a'u disgwyliadau.

• Gweithredu fel cyswllt

rhwng y sefydliad a'i
randdeiliaid i sicrhau cyfathrebu a chydweithio
effeithiol.

• Meithrin a chynnal perthnasoedd cryf â’r wasg, y
cyfryngau yng Nghymru a rhanddeiliaid eraill
trwy ddeall eu hanghenion, eu disgwyliadau a'u
hadborth, a defnyddio'r wybodaeth hon i wella
gwaith cyfathrebu.

• Adnabod a gweithredu ar gyfleoedd i ehangu
cynulleidfaoedd y Llyfrgell trwy fod yn hygyrch
ac ymestyn allan at gymunedau amrywiol a
defnyddio
i
ddatlygu’r berthynas gyda gwledydd y tu hwnt i
Gymru.

adnoddau

Llyfrgell

digidol

y

  5

Dyletswyddau allweddol

Datblygu a gweithredu’r rhaglen gyfathrebu

• Dylunio a gweithredu rhaglenni a mentrau sy'n gwella cyfathrebu
mewnol ac allanol, profiad defnyddwyr y wefan a’r gwasanaeth
ymholiadau ac yn meithrin diwylliant sefydliadol cadarnhaol ac arwain
y timoedd i’w gwireddu.

• Datblygu a gweithredu cynlluniau i hyrwyddo ac ehangu’r defnydd a
wneir o wasanaethau a chasgliadau, ehangu’r brand ac adnabod a
chlustnodi adnoddau i gyflawni amrywiol brosiectau a blaenoriaethau
gan osod targedau tymor byr a thymor hir.

• Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd a thraweffaith ein gwasanaethau

i’r cyhoedd, gan wneud addasiadau yn ôl yr angen.

• Gosod nodau, nodi dangosyddion perfformiad allweddol, sicrhau
cysondeb ag amcanion cyffredinol y sefydliad trwy ddylunio,
a
cynllunio, mesur
gweithgareddau yr adran gyfathrebu.

gwasanaethau

traweffaith

amlygu

ac

• Creu a gweithredu strategaethau i ddenu ystod ehangach o bobl a
phlant i’r Llyfrgell gyda phwyslais gref ar gynyddu amrywedd ein
defnyddwyr.

• Datblygu a gweithredu rhaglen ddigwyddiadau ddychmygus sydd yn

gwasanaethu cynulleidfaoedd amrywiol.

Rheoli cyllideb ac adnoddau

• Datblygu a rheoli'r gyllideb cyfathrebu a’r gwahanol dimoedd sy’n
rhan o’r adran gan sicrhau dyraniad effeithlon o adnoddau i sicrhau'r
effaith fwyaf posibl.

• Gwerthuso a dethol gwerthwyr a phartneriaid allanol, fel asiantaethau

gwahanol ac ymgynghorwyr i gefnogi amcanion strategol.

Cyfathrebu clir ac eiriolaeth

• Datblygu a chyflwyno negeseuon clir, cyson a chymhellol i
cysylltiad gyda’r
rhanddeiliaid mewn

ymgysylltu
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata.

â

• Gwasanaethu fel eiriolwr dros fuddiannau rhanddeiliaid o
fewn y sefydliad, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu
clywed a'u hystyried.

• Arwain ar sicrhau llais y defnyddiwr wrth ddatblygu a
chynnal gwasanaethau a gweithgareddau defnyddiwr-
ganolog, gan roi ystyriaeth greiddiol i anghenion, ystod ac
amrywedd carfannau defnyddwyr cyfredol a newydd.

Arloesi a gwella parhaus gyda’r dulliau cyfathrebu

• Aros ar y blaen i dueddiadau a cheisio ffyrdd arloesol o
wella gwaith yr adran yn barhaus. Mae hyn gynnwys
technolegau newydd, mabwysiadu arferion gorau o
ddiwydiannau eraill, neu arbrofi gyda dulliau newydd o
gyrraedd, mesur a gwerthuso cynulleidfaoedd – gyda
phwyslais ar y Cyfryngau Cymdeithasol a phlatfformau
digidol.

• Cydweithio gyda’r Pennaeth Ymgysylltu a’r Tîm Blaen y Tŷ
i sicrhau bod pawb sy’n dod i gysylltiad â’r Llyfrgell - ar ein
safleoedd a thu hwnt iddynt, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein -
yn cael y profiad gorau posibl.

  6

Dyletswyddau allweddol

Yn ogystal â'r cyfrifoldebau penodol uchod, bydd pob rheolwr Band
6 yn ymwybodol ac yn frwd dros gyflawni nodau a blaenoriaethau
Strategaeth a Chynllun Gweithredol y Llyfrgell ac yn cyfrannu at
bennu polisïau, strategaethau a blaenoriaethau i gyflawni amcanion
cyffredinol y Llyfrgell, gan fanteisio hefyd ar unrhyw gyfle i
hyrwyddo'r Llyfrgell a'i gwasanaethau.

Byddant yn hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus a'i
wybodaeth am brif bolisïau a gweithdrefnau'r Llyfrgell, a'u
perthnasedd – gan gynnwys materion
ymwneud â
chydraddoldeb ac amrywiaeth, Adnoddau Dynol, rheoli perfformiad,
rheolaeth ariannol, rheoli risg, caffael ac iechyd a diogelwch,
diogelu data, rhyddid gwybodaeth, safonau'r Gymraeg a Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol – sy'n hysbys iddynt a byddant yn
rhagweithiol o ran cadw'r wybodaeth sydd ganddo/ganddi yn
gyfredol.

sy'n

Byddant yn sicrhau bod rheolaethau'r Llyfrgell yn sicrhau gwerth
am arian o fewn fframwaith o arfer gorau,
rheoleidd-dra a
phriodoldeb. Byddant yn bennaf gyfrifol am eu datblygiad
proffesiynol eu hunain a byddant yn chwilio am gyfleoedd i
gymhwyso eu hunain ymhellach i gyflawni'r dyletswyddau swydd
hyd yn oed yn well.

Darperir y Swydd Ddisgrifiad hon i roi amlinelliad bras i ddeiliaid
swyddi o'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon. Efallai y
byddyLlyfrgellyneigwneudynofynnoliddyletswyddaueraillgael
eu cyflawni nad ydynt o reidrwydd wedi'u nodi ar y Swydd
Ddisgrifiad ond sy'n gymesur â maint y swydd. Gellir diwygio'r
Swydd Ddisgrifiad o bryd i'w gilydd o fewn cwmpas a lefel y
cyfrifoldebsy'nberthnasoli'rswyddhon.

Yn rhinwedd y swydd hon, byddwch chi’n gyfrifol am:

• Arwain y ffyniant hyrwyddo, marchnata a chyfryngau
cymdeithasol ar draws y Llyfrgell a chefnogi eraill gyda’u
dyletswyddau hyrwyddo a marchnata hwythau.

• Arwain y timau gwefan ac ymholiadau i fod yn uchelgeisiol, i
ddarparu gwasanaethau o ansawdd cyson uchel i’r cyhoedd,
ac i fod yn hygyrch a defnyddiol
i gynulleidfaoedd amrywiol a
thancynrychioledig.

• Darparu safon uchel o wasanaeth i staff, defnyddwyr ac

ymwelwyr.

• Datblygu rhagoriaeth a gwelliannau ym mhrofiad ymwelydd;
diffinio a lansio profiad ymwelwyr 'wedi'i adnewyddu' ac
i’r dyfodol;
arwain a chynnal y ffyniant ‘Prosiect Ymwelwyr’
ysbrydoli staff eraill i berchnogi’r flaenoriaeth hyn yn ogystal.

• Datblygu a

chynnal dulliau effeithiol o sicrhau bod

gwasanaethau’r Llyfrgell yn ddefnyddiwr-ganolog.

• Bod yn wyneb cyhoeddus a llysgennad ar adegau i’r Llyfrgell,
yn enwedig mewn gweithgareddau a chyfarfodydd allanol;

• Cyfrannu at gynyddu incwm.

• Rheolaeth ariannol.

• Rheolaeth staff.

• Gosod dangosyddion, bod yn atebol am gyflawniad rhai, ac

adrodd i amrywiol bwyllgorau Llyfrgell a’r Bwrdd.

  7

Cysylltiadau allweddol

Ble?

Mewnol

•

•

•

•

Staff ar bob lefel ar draws y Llyfrgell

Timau o fewn i’r Adran Ymgysylltu

Pennaethiaid Adrannau fel aelod o’r Tîm Arwain

Prif Weithredwr ac aelodau’r Tîm Gweithredol

Natur y cysylltiad

Bod yn arweinydd ysbrydoledig yn unol â gwerthoedd y
Llyfrgell Genedlaethol; arwain; cynghori; perswadio a thrafod
ac ystyried cynlluniau gwreiddiol

Allanol

•

•

•

•

Darpar bartneriaid strategol

Staff a swyddogion Llywodraeth Cymru

Defnyddwyr ac ymwelwyr

Prosiectau penodol, sefydliadau proffesiynol allanol

Cynnal a datblygu perthnasau; ymgynghori ag unigolion a
chynulleidfaoedd; adnabod anghenion; diwallu anghenion;
arwain; cynghori; perswadio a thrafod ac ystyried cynlluniau
gwreiddiol.

Cynrychioli’r Llyfrgell a bod yn llefarydd iddi mewn
cyfarfodydd a gweithgareddau perthnasol.

  8

Datrys problemau

Penderfynu

Bydd y penderfyniadau y bydd deilydd y swydd yn gorfod eu
gwneud yn amrywiol iawn a fydd nid yn unig yn effeithio ar ei
waith/gwaith ei hun ond hefyd ar waith eraill. Gall rhai o’r
penderfyniadau olygu
adolygu/newid dulliau o weithio,
dosbarthu a blaenoriaethu gwaith ac addasu dulliau presennol
o weithredu er mwyn cyrraedd nodau ac amcanion.

Bydd y deilydd hefyd yn penderfynu sut orau i ddatblygu a
meithrin cysylltiadau proffesiynol, ymgynghori a gwrando ar
leisiau ein defnyddwyr a’n hymwelwyr.

Gall y gwaith gynnwys tasgau heriol a sensitif, ac yn arbennig
mewn perthynas â chynnal trafodaethau pwysig ac arwyddocaol
gyda defnyddwyr ac ymwelwyr,
lle mae angen lefel uchel o
sensitifrwydd ac ymarferoldeb.

Bydd anghenion defnyddwyr, ymwelwyr a staff yn amrywio a bydd
angen i ddeilydd y swydd gynnig datrysiadau na fydd bod amser yn
bodloni pawb, ond bydd ei resymeg dros gynnig y datrysiadau yn
mynd rhan o’r ffordd i liniaru anfodlonrwydd rhai.

Gall deilydd y swydd wynebu anhawster wrth geisio arwain ac
ysbrydoli eraill y tu allan i’w gyfarwyddiaeth - i gyfrannu at y
ffyniant hyrwyddo a marchnata a phrofiad yr ymwelydd, ac mewn
achosion fel hyn bydd galw am lefel uchel o berswâd a doniau
diplomyddol. Gallai canlyniadau sut rydych chi’n ymddwyn ac yn
mynd i’r afael â heriau’r swydd fod yn bellgyrhaeddol iawn a gallai
effeithio ar enw da’r Llyfrgell.

Bydd angen i ddeiliad y swydd nodi’r atebion gorau i’r heriau,
megis:

• asesu, rheoli a monitro risgiau amrywiol, cyfreithiol a strategol

• blaenoriaethu gwaith ac adnoddau

• gweithredu a dehongli polisïau a strategaethau

• cydweithio mewnol ac allanol

• anghydfodau ac anghytundebau, gan gynnwys materion

disgyblu

  9

Manyleb person

Priodoledd

Hanfodol

Dymunol

Gwybodaeth / Addysg

Gradd Prifysgol a/neu gymhwyster berthnasol,
gyfatebol.

Profiad o ddarparu gwasanaeth croeso
mewn llyfrgell, amgueddfa neu oriel.

Adnabyddiaeth o’r tirlun diwylliannol
Cymreig.

Profiad

Profiad o weithredu ar lefel uchel o fewn y maes
marchnata a chyfathrebu.

Profiad o weithio ym meysydd hyrwyddo a
marchnata.

Profiad o arwain staff ac adnoddau.

Profiad o weithio ym meysydd lletygarwch a chroeso.

Profiad o ymgynghori gyda chynulleidfaoedd a
phartneriaid allanol.

Profiad o gynllunio, ysgrifennu a rhoi strategaethau a’r
waith.

Huodledd llafar ac ysgrifenedig  yn Gymraeg a
Saesneg.

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu o’r radd flaenaf yn
cynnwys y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad
eang o gynulleidfaoedd.

Sgiliau

10

Taith yr  Ymgeisydd

Yn Goodson Thomas, rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas rydym
yn ei datblygu gydag ymgeiswyr ac am sicrhau bod eich profiad y
gorau y gall fod. Wrth i chi symud drwy’r broses recriwtio, rydym
am fod yn glir ynghylch y prif gerrig milltir y byddwch yn dod ar eu
traws, ein rôl wrth archwilio eich profiad ac ateb eich cwestiynau,
a beth i’w ddisgwyl ar ôl i chi wneud cais am y swydd.

11

Cam  1:
C ysylltu

Dyma ble rydym yn cynnal y cyswllt cyntaf,
rhannu’r cyfle gyda chi a nodi ein bod ar
gael am sgwrs i drafod y swydd.

Cam 2:
Sgyrsiau archwiliadol
11 Chwefror  – 11 Mawrth 2026

Y cam nesaf yw cynnal sgwrs archwiliadol gydag un o'n
hymgynghorwyr. Mae'r sgyrsiau hyn yn para tua 30
munud. Dyma'ch cyfle chi i ddysgu mwy am y sefydliad a
natur y swydd, a'n cyfle ni
i archwilio'ch cefndir a'ch
profiad hyd yma. Sgwrs ddwy ffordd yw hon, a’r cyfle i
ddechrau archwilio eich addasrwydd i’r rôl ac yn yr un
modd, a yw’r cyfle yn addas i chi.

Cam  3:
Cais
12 Mawrth 2026
Yn dilyn eich sgwrs archwiliadol, ac ar yr amod
eich bod yn dymuno parhau i wneud cais,
byddwn yn gofyn i chi gyflwyno copi wedi'i
ddiweddaru o'ch CV, ynghyd â llythyr eglurhaol
yn amlinellu eich addasrwydd a'r gwerth y
gallwch ei gynnig i’r rôl, yn ogystal â pham y
cyfle hwn yn benodol.

Cam  4:
Llunio Rhestr Fer

Cam 5:
Cyfweliad  â’r Cleient

Cam 6:
Canlyniad

Diwedd Mawrth 2026 (Aberystwyth)
Wedyn, rydym ni'n trosglwyddo'r awenau i’r Panel i gynnal
eu hasesiadau ac yn cwrdd â nhw pan fydd yr holl
gyfweliadau wedi dod i ben er mwyn derbyn eu
penderfyniad.

Pan fydd y gronfa o ymgeiswyr yn cael ei
chyflwyno i’r Panel, bydd Goodson Thomas
yn gweithio ochr yn ochr â nhw i gefnogi’r
penderfyniad o ran llunio rhestr fer. Ein rôl ni
yw eirioli eich profiad a’r gwerth y gallwch ei
gynnig yn seiliedig ar eich cais a’n trafodaeth
flaenorol. Os na fydd eich cais yn cyrraedd y
rhestr fer, byddwn yn cysylltu â chi ac yn
rhannu pob adborth perthnasol o’r cyfarfod.

Pan fydd penderfyniad wedi’i wneud, byddwn yn
cysylltu â PHOB ymgeisydd ac yn eu hysbysu o'r
canlyniad, gan rannu adborth lle bo angen.

Ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwn yn
cyflwyno’r cynnig cleient ac – ar ôl ei dderbyn ar
lafar – byddwn yn derbyn eich manylion am
eirda ac yn cyflawni’r rhain ar ran y Llyfrgell cyn
trosglwyddo’r manylion i’ch cyflogwr newydd i
wneud cynnig ffurfiol.

 9

Manylion pellach

Teitl Swydd:

Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Chyfryngau

Cyfarwyddiaeth:

Cyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Adran:

Yn atebol i:

Band:

Cyflog:

Cytundeb:

Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

6

£58,211 - £66,836

Parhaol

Lleoliad:

Aberystwyth / hybrid

Sut  i Wneud Cais

Er mwyn cefnogi’r broses chwilio ar gyfer y swydd hon, rydym yn defnyddio Goodson Thomas yn unig, cwmni Chwilio Gweithredol Cymreig. Os ydych
chi’n dymuno gwneud cais am y cyfle hwn, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu drwy anfon e-bost at info@goodsonthomas.com

I wneud cais cyflwynwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol drwy wefan Goodson Thomas.

Bydd yr holl geisiadau'n cael eu cydnabod.

Dyddiad Cau

12pm, 12 Mawrth 2026

Cyfweliadau Pan el

Diwedd Mawrth 2026 (Aberystwyth)

 10

Diolch

gwybodaeth@goodsonthomas.com
029 2167 4422