Nyrs Meithrin (Rhan amser a Llawn amser) – Meithrinfa Twts Tywi
Lleoliad: CWM CUDYLL FACH , MANORDEILO , LLANDEILO
Mae’r Feithrinfa yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â'r tim staff. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog: I'w drafod yn ddibynol ar gymwysterau a profiad
Oriau: Mae'r feithrinfa ar agor Llun-Gwe, 8.00-18.00. Mae x2 swydd ar gael (1 rhan amser ac 1 llawn amser)
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar lefel 2 neu uwch.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Caryl Thomas 01550779039 / 07772683233
Dyddiad Cau: 11/06/2026
Diwrnod Bore Prynhawn Dydd Llun 8.00-18.00 Dydd Mawrth 8.00-18.00 Dydd Mercher 8.00-18.00 Dydd Iau 8.00-18.00 Dydd Gwener 8.00-18.00