Connect with a cause that needs you!

Gweithiwr Cefnogi Cynorthwyol - Nosweithiau

THE SALVATION ARMY
Windsor Street , Rhyl, LL18 1BW, United Kingdom
Full-time
8th April 2026
Listed today

Gweithiwr Cefnogi Cynorthwyol - Nosweithiau

Oriau Gwaith: 40 awr yr wythnos 

CYTUNDEB: Parhaol
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chadarnhaol i ymuno â’n tîm newydd, fel rhan o’r Prosiect STEP yn Sir Ddinbych.
Nod y prosiect hwn yw darparu profiad gwell, cyffredinol, o fyw mewn llety dros dro yn Sir Ddinbych, lle mae pobl yn cael eu cefnogi i wella eu lles ac adeiladu ar eu dyfodol.Bydd STEP yn cefnogi hyd at 50 o aelwydydd sy’n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Bydd cymorth yn dechrau yn y lle cyntaf mewn lleoliadau dros dro presennol yn y fwrdeistref (Gwely a Brecwast), cyn trosglwyddo i gyfleusterau byw â chymorth pwrpasol, wrth i'r adeiladau hyn ddod ar gael.Mae STEP ar ddechrau ei daith ac rydym yn chwilio am berson unigryw a
thalentog sy’n awyddus i deithio gyda ni.Cyfrifoldebau Allweddol:

• Gweithio mewn partneriaeth â’n tîm ehangach yn cefnogi teuluoedd a phobl sengl sy’n byw mewn llety argyfwng dros dro ar draws sawl safle yn y Rhyl.

• Cynorthwyo wrth gyflwyno rhaglen ddeniadol o weithgareddau ystyrlon a chyfleoedd cyd-gynhyrchu, i ddarparu strwythur a diben i deuluoedd a phobl sengl ar draws nifer o leoliadau cymunedol.

Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu:

  • Dangos sgiliau cyfathrebu a TG da
  • Dod â chymhelliant cadarnhaol tuag at gefnogi pobl ddigartref a phobl fregus.
  • Mwynhau gweithio fel rhan o dîm
  •  Meddu ar y gallu i weithio mewn cydymdeimlad ag egwyddorion ysbrydol Byddin yr Iachawdwriaeth

Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch y proffil swydd ac unrhyw atodiadau eraill.

Ym mhroffil y swydd fe welwch y meini prawf sydd eu hangen ar gyfer y rôl, gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i'r afael â hyn yn eich datganiad ategol gan mai hwn yw sail ein rhestr fer.

Penodiad yn amodol ar dystlythyrau boddhaol, prawf o hawl i weithio yn y DU, Datgeliad Manwl/Safonol y DBS//Mynediad GI (Diwygiwch fel y bo’n briodol)

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hwn yn gynharach os teimlwn ein bod wedi derbyn digon o geisiadau.

Gan hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac fel cyflogwr cynllun hyderus o ran anabledd, rydym yn gwarantu cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd wag.

Benefits:
25 days annual leave + bank holidays (pro rata for part-time) a contributory pension scheme; an employee assistance programme