Elections Promotion Assistant / Cynorthwyydd Hyrwyddo Etholiadau
As part of the Students’ Union Leadership Elections, we are looking for enthusiastic, friendly and reliable students to support Student Voice staff during voting week (9th-12th March).
The main roles and responsibilities of Elections Promotion Assistants are:
- To staff stalls throughout the week, actively engaging passing students
- To promote the elections, and engage students in conversation about them
- To answer any questions students may have about the elections
- To encourage students to exercise their democratic right to vote
- To signpost any students who experience issues voting
All Election Promotion Assistants will receive training from the Elections Team prior to their first shift in order to prepare them, and shifts can be allocated around any existing commitments. The online training is scheduled for Wednesday 4th March 1 - 2pm. If you are not available to attend on this date/time, please explain this in your application
Fel rhan o Etholiadau Arweinyddiaeth Undeb y Myfyrwyr, rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig, cyfeillgar a dibynadwy i gefnogi staff Llais y Myfyrwyr yn ystod wythnos y bleidlais (9fed-12fed Mawrth).
Prif rolau a chyfrifoldebau Cynorthwywyr Hyrwyddo Etholiadau yw:
- Staffio stondinau drwy gydol yr wythnos, gan wneud ymdrech i ymgysylltu â myfyrwyr sy'n mynd heibio
- Hyrwyddo'r etholiadau, a chael sgyrsiau gyda myfyrwyr amdanynt
- Ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan fyfyrwyr am yr etholiadau
- Annog myfyrwyr i arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio
- Cyfeirio unrhyw fyfyrwyr sy'n cael problemau pleidleisio
Bydd pob Cynorthwyydd Hyrwyddo Etholiadau yn derbyn hyfforddiant gan y Tîm Etholiadau cyn eu shifft gyntaf er mwyn eu paratoi, a gellir dyrannu sifftiau o amgylch unrhyw ymrwymiadau presennol. Mae'r hyfforddiant ar-lein wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mercher 4ydd Mawrth rhwng 1 a 2yp. Os nad ydych ar gael i fynychu ar y dyddiad/amser hwn, esboniwch hyn yn eich cais.