Education Workforce Tutor - Ysgol Tywyn (50% FTE)
Education Workforce Tutor - Ysgol Tywyn (50% FTE)
Job Number
BU03981School/Department
Learn Welsh – North WestGrade
6Salary Information
Salary: £30,805 - £37,174 p.a. pro rata (Grade 6)Contract Duration
until 31/03/2027Responsible to
Education Workforce TutorClosing Date
19-03-2026Applications are invited for this part time post (0.5) with Learn Welsh - North West, Bangor University. This post will be available until 31 March 2027 in the first instance.
The duties will include supporting the staff of Ysgol y Gogarth (ALN school) to learn Welsh and to gain confidence in the Welsh language, and enable them to be confident to teach through the medium of Welsh.
Candidates should be educated to degree standard (or equivalent) and have extensive teaching experience.
The successful candidate will be expected to commence as soon as possible after 13 April 2026.
Applications from individuals who wish to be seconded will be considered.
Ability to communicate in Welsh is essential for this post.
This post is subject to a satisfactory standard Disclosure & Barring Service check.
This post is located in Ysgol Tywyn.
Applications should only be submitted through our online recruitment website, jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy. However, in cases of access issues due to disability, paper application forms are available by telephoning 01248 383865.
Closing date for applications: 19 March 2026Interviews will be held during the week commencing 23/03/26.
Informal inquiries can be made by contacting Elen Lois, Head of Learn Welsh - North West,
Committed to Equal Opportunities
Trosolwg
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (DCGO) ym Mhrifysgol Bangor yn un o 10 darparwr sy’n darparu cyrsiau dysgu Cymraeg ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ers 1 Awst 2016, mae wedi bod yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg i oedolion ar draws siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.
Mae DCGO yn gyfrifol am ddarpariaeth ar gyfer tua 2200 o ddysgwyr unigol ar hyd a lled y tair sir, ac yn gweithredu ar gyllideb o tua £2.1M. Mae’r tîm dysgu’n cynnwys 29 o staff amser llawn neu ffracsiynol, a thua 40 o diwtoriaid rhan amser.
Gwefan: www.dysgucymraeg.cymru/GO
Prif ddiben y swydd
- Cefnogi staff Ysgol y Gogarth (ysgol ADY) i ddysgu Cymraeg ac i fagu hyder yn y Gymraeg a’u galluogi i fod yn hyderus i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cefnogi’r ysgol i gynllunio a mapio cynnydd sgiliau iaith y staff ar draws yr ystod lefelau Dysgu Cymraeg, a hynny dros gyfnod amser penodol.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd y tiwtor yn darparu’r gwasanaeth a ganlyn:
- Asesu lefelau iaith cychwynnol staff (os oes angen) a thracio eu cynnydd ieithyddol.
- Darparu gwersi Dysgu Cymraeg priodol ac addas ar gyfer unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau yn unol â’r galw.
- Darparu rôl mentor iaith, drwy ddarparu cyngor i athrawon a staff ar eu defnydd o’r Gymraeg wrth eu gwaith.
- Dod i gytundeb gyda’r ysgol ar amserlen resymol sy’n caniatáu staff i ymrwymo i wersi.
- Disgwylir i ddeiliad y swydd gwblhau Cymhwyster Dechrau Dysgu: Tystysgrif Lefel 4 CBAC i diwtoriaid (os nad ydynt eisoes wedi’i gwblhau).
Bydd yr ysgol/Awdurdod lleol yn:
- Darparu pwynt cyswllt o’r Uwch Dim Rheoli ar gyfer y tiwtor.
- Sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r cynnig a’r gefnogaeth.
- Sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau i fynychu gwersi, yn unol â’r amserlen gytunwyd arni.
- Darparu gofod addas i’r tiwtor gyflawni ei g/waith.
Cyfrifoldebau a Dyletswyddau Eraill
- Disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn adolygiadau perfformiad a gweithgareddau datblygu.
- Disgwylir i ddeiliad y swydd gydymffurfio â pholisi cyfle cyfartal, polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio a Polisi Iaith y Brifysgol a Safonau Iaith.
- Mae gan ddeiliad y swydd ddyletswydd gofal cyffredinol a chyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles, a rhaid iddynt gymryd yr holl gamau sy’n rhesymol i sicrhau amgylchedd gwaith diogel ac iach iddynt eu hunain ac aelodau staff eraill, myfyrwyr ac ymwelwyr y mae eu gweithrediadau neu eu diffyg gweithredu yn effeithio arnynt. Mae hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gydymffurfio â’r holl bolisïau iechyd a diogelwch, dulliau gweithredu ac asesiadau risg perthnasol.
- Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â’r polisïau a’r dulliau gweithredu cyfreithiol a chyllidol perthnasol, a bod yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau o ran gofynion cyfreithiol ei swydd.
Gofynion Personol
Hanfodol
- Gradd safonol mewn unrhyw faes perthnasol.
- Addysgwr rhagorol gyda phrofiad dysgu eang.
- Profiad o gynghori a chefnogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn Gymraeg a Saesneg.
- Sgiliau rhyngbersonol arbennig a’r gallu i gydweithio’n effeithiol â phobl eraill ac fel rhan o dîm.
- Y gallu i weithio’n drefnus gan flaengynllunio a gweithio i derfynau amser.
- Sgiliau TG rhagorol ar gyfer dysgu a gweinyddu.
- Y gallu i weithio’n annibynnol yn ôl yr angen.
- Brwdfrydedd am y Gymraeg.
- Ymagwedd ragweithiol tuag at gefnogi siaradwyr newydd.
Dymunol
- Cymhwyster Dechrau Dysgu: Tystysgrif Lefel 4 CBAC i diwtoriaid Cymraeg neu brofiad cyfatebol.
- Profiad o weithio mewn ysgol fel athro/athrawes.
- Profiad o addysgu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel.
- Profiad o ddysgu Cymraeg i staff mewn gweithleoedd.
- Profiad o gydweithio’n strategol gyda gweithleoedd ar hyfforddiant iaith i staff
- Profiad o gefnogi dysgwyr.
- Trwydded yrru a’r gallu i deithio i leoliadau dysgu o fewn pellter rhesymol i’ch cartref.
Cyffredinol
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hyn trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth eang o staff o nifer o wahanol gefndiroedd. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu gweithle o bob rhan o'r gymuned waeth beth fo'u rhyw, hunaniaeth rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Rydym yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg trwy ein Polisi Iaith Gymraeg blaengar. Rydym yn cydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Saesneg neu Gymraeg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydym yn aelod o siarter Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau Athena SWAN Advance HE ac rydym wedi derbyn gwobr Arian i gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol a'r cynnydd o wnawn o fewn polisïau, arferion a diwylliant y brifysgol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr hyderus o ran anabledd.
Mae’n ddyletswydd ar holl aelodau’r staff i sicrhau bod eu gweithredoedd yn cydymffurfio ag amcanion amgylcheddol cyffredinol y brifysgol a'u bod yn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Cynigir pob swydd yn amodol ar dystiolaeth o gymhwyster i weithio yn y Deyrnas Unedig, a derbyn tystlythyrau boddhaol.
Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn y gallwch ddechrau gweithio i ni. Wrth wneud cais am y swydd hon bydd gofyn i chi egluro ar ba sail y credwch y byddwch yn gallu byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithiol ar ddyddiad dechrau’r swydd os bydd eich cais yn llwyddiannus. Os nad oes gennych yr hawl i weithio’n rhydd mewn unrhyw swydd yn y Deyrnas Unedig eisoes, bydd unrhyw gynnig cyflogaeth y byddwn yn ei wneud i chi yn amodol arnoch chi’n cael fisa hawl i weithio. Mae'r ddolen ganlynol yn darparu gwybodaeth am y gwahanol lwybrau fisa i gyflogaeth a'r gofynion cymhwysedd (gan gynnwys newid statws fisa lle caniateir hynny) https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/work-visas. Os bydd eich cais yn llwyddiannus byddwn yn trafod opsiynau fisa gyda chi ar adeg gwneud y cynnig o gyflogaeth.
Sylwer, os derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ar gofrestr adleoli’r brifysgol ac sydd â sgiliau sy’n cyfateb yn weddol i ofynion y swydd, y caiff yr ymgeiswyr hynny eu hystyried yn gyntaf.
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae’r swydd hon yn amodol ar gwiriad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gan fod Prifysgol Bangor yn ateb y gofynion o ran cwestiynau eithriedig yn unol â Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, bydd yr holl ymgeiswyr sy’n cael cynnig swydd yn cael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn y cadarnheir y penodiad. Bydd hyn yn cynnwys manylion am rybuddion, ceryddon neu rybuddion terfynol, yn ogystal ag euogfarnau. Caiff gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd eu diweddaru bob 3 blynedd.
Dylai ymgeiswyr nodi bod y Brifysgol yn defnyddio corff ymbarél allanol i brosesu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. O'r herwydd, dylech fod yn ymwybodol, os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich enw a manylion eich e-bost yn cael eu rhannu gyda'r corff ymbarél er mwyn iddynt gysylltu â chi i ddechrau'r broses ymgeisio.