Cynorthwyydd/Prentis – Cylch Meithrin Myrddin
Lleoliad: YSGOL Y DDERWEN , HEOL SPURRELL , CAERFYRDDIN
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant.
Mae Cylch Meithrin Myrddin wedi symud lleoliad i Ysgol y Dderwen Caerfyrddin, er mwyn ehangu oriau i blant yr ardal. Mae’r ymddiriedolwyr yn awyddus i benodi aelod newydd o staff i ymuno a’r criw brwdfrydig sydd gennym. Mae’r swydd yn cynnig cyfle i gymhwyso wrth weithio i lefel 5, neu lefel 2 i lefel3. Edrychwn ymlaen i dderbyn ceisiadau.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog: £12.75 yr awr
Oriau: 30 Awr, Llun i Gwener 08.30- 13.30
Level 2 early years qualification or above is required
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Carole Williams – 07494491603 neu carole.williams@meithrin.cymru
Dyddiad Cau: 14/05/2026
DiwrnodBorePrynhawnDydd Llun09.00-12.00Dydd Mawrth09.00-12.00Dydd Mercher09.00-12.00Dydd Iau09.00-12.00Dydd Gwener09.00-12.00