Cynorthwyydd Cymraeg
Mae prosiect Recriwtio Adnoddau Dynol (AD) yn gweithredu system recriwtio newydd ar gyfer y Brifysgol, gan gynnwys porth swyddi newydd ar gyfer ymgeiswyr mewnol ac allanol. I gefnogi'r gwaith hwn rydym yn chwilio am ddau fyfyriwr sy'n canolbwyntio ar fanylion ac sydd â sgiliau Cymraeg cryf.
Crynodeb o'r rôl:
Lleoliad: Campws Cathays Prifysgol Caerdydd /Gweithio o bell
Rheolwr Llinell: Uwch-reolwr Prosiectau, Prosiect Recriwtio Adnoddau Dynol (AD)
Cyfradd fesul awr: £12.80
Oriau’r wythnos: 35 (rhannwch swydd neu batrymau gweithio hyblyg ar gael)
Hyd: 6-8 wythnos
Y dyddiad dechrau disgwyliedig: Cyn gynted â phosibl / Chwefror 2026
Disgrifiad o’r rôl:
Mae'r Brifysgol yn gweithredu system recriwtio newydd y disgwylir iddi gael ei lansio ddiwedd y Gwanwyn/dechrau'r Haf. Rydym yn y broses o gyfieithu’r system i’r Gymraeg ar hyn o bryd ac rydym am sicrhau bod y cynnwys sy’n deillio o hyn o’r ansawdd gorau posibl i staff sy’n siarad Cymraeg ac ymgeiswyr mewnol ac allanol. Mae llawer o'r cynnwys sydd ei angen arnom eisoes ar gael o fewn y system recriwtio bresennol ond mae bylchau a meysydd lle mae'r cynnyrch newydd yn cynnig ymarferoldeb ychwanegol i ni sydd heb ei gyfieithu ar hyn o bryd. Felly mae angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus gynorthwyo gyda’r canlynol:
- Llenwi’r system newydd gyda chyfieithiadau sydd eisoes ar gael o fewn y system bresennol;
- Nodi lle nad oes cynnwys Cymraeg presennol ar gael ac yna allforio'r testun Saesneg i daenlenni Excel a'u cyflwyno i'w cyfieithu i'r Uned Gyfieithu Cymraeg;
- Pan dderbynnir cynnwys wedi'i gyfieithu yn ôl o'r Uned Gyfieithu, trosglwyddo hwn i'r system newydd;
- Cynnal archwiliad terfynol o daith defnyddiwr Cymraeg
Efallai y bydd angen cynnal tasgau gweinyddol cysylltiedig eraill i gefnogi'r prosiect hefyd.