Connect with a cause that needs you!

Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc)

12.71 per hour
Cylch Meithrin Ynyshir a Wattstown
Full-time
Listed today

Yn ôl i'r rhestr swyddi

Lleoliad - Cylch Meithrin Ynyshir a Wattstown, Pafiliwn Bowlio Wattstown, Parc Wattstown, Wattstown, CF39 0RA

Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.

Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Cyflog: £12.71 yr awr

Oriau: Yn ôl yr angen yn ystod oriau'r Cylch, sef 9.00-15.00 Llun - Gwener

Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant

Mae’r Cylch yn edrych am Gynorthwyydd achlysurol i weithio pan fo angen yn ystod absenoldeb staff neu hyfforddiant. Cyfle da i ddatblygu eich sgiliau fel ymarferydd gofal plant gyda thîm o staff profiadol. Byddwn yn ystyried ceisiadau gan rheini sy’n gweithio tuag at gymhwyster. Nid oes angen aros am y dyddiad cau i ymgeisio. Byddwn yn ystyried pob cais wrth i ni ei dderbyn a chynnig cyfweliad i ymgeiswyr addas.

Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu – E-bostiwch CV i wattsmeithrin@hotmail.co.uk

Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia 

yma am fwy o wybodaeth.

Dyddiad Cau: 31/12/2026

Diwrnod Bore Prynhawn Dydd Llun 9.00-15.00 Dydd Mawrth 9.00-15.00 Dydd Mercher 9.00-15.00 Dydd Iau 9.00-15.00 Dydd Gwener 9.00-15.00