Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Sir Gaerfyrddin
Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Sir Gaerfyrddin
Sir GârGweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Heather Davies-Rollinson - Rheolwr Talaith y De Orllewin a'r Canolbarth
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: heather@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM22 – MM25, £29,610 - £32,712 pro rata (Polisi Mudiad Meithrin yw cynnig y swydd ar ricyn cyntaf y band MM).
Oriau: 27 awr craidd yr wythnos.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 02/02/2026