Connect with a cause that needs you!

Listed today

Mae Tim yn arbenigwr mewn ynni adnewyddadwy gyda phrofiad helaeth o fewn y diwydiant gwynt. Enillodd brofiad gwerthfawr o fyw a gweithio ‘oddi ar y grid’ trwy weithio yn CyDA ar ddiwedd y 1990au. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd gwaith ym myd ynni adnewyddadwy, yn bennaf yn y diwydiant gwynt. Mae’n angerddol am ynni adnewyddadwy cymunedol ac addysg.

Yn gynnar yn y 1990au, dechreuodd Tim weithio yn niwydiant gwynt newydd y DU fel technegydd cynnal a chadw ac fe arweiniodd hyn at gael swydd yn adran beirianneg CyDA sawl blwyddyn yn ddiweddarach. Bryd hynny, roedd y safle’n dal i fod ‘oddi ar y grid’ ac enillodd lawer iawn o brofiad o fyw gyda, a chynnal systemau trydanol a dŵr oddi ar y grid. Tra yn CyDA, dyma Tim hefyd yn rheoli y rhaglen wirfoddoli hirdymor ar gyfer y tîm peirianneg ac roedd yn mwynhau rhoi cyfleoedd a phrofiad i bobl ifanc gyda meddylfrydau ymarferol.

Ar ôl gadael CyDA, dychwelodd Tim i’r Diwydiant Gwynt a gweithiodd ym maes datblygu prototeipiau tyrbinau gwynt masnachol mawr.

Mae Tim hefyd wedi bod yn ffodus i weithio i’r cwmni lleol Dulas Ltd (cwmni sy’n deillio o CyDA) fel Technegydd Ynni Adnewyddadwy a Rheolwr Technegol yn ffocysu ar systemau cynhyrchu Hydro, Gwynt a Solar.

Ym 1999, helpodd Tim i sefydlu Bro Dyfi Community Renewables Ltd yn nyffryn Dyfi, sy’n berchen ar ac yn rhedeg dau dyrbin gwynt maint masnachol a phaneli PV ar ran ei gyfranddalwyr.

Yn y gorffennol diweddar, mae Tim wedi addysgu ar amryw o gyrsiau byr yn CyDA ac ers mis Mehefin 2025 roedd yn gwirfoddoli’n rheolaidd yn CyDA cyn cael ei benodi’n Ymddiriedolwr ddechrau mis Mehefin 2026.