Overview
The Student Experience Partner Scheme (formerly the Student Champion Scheme), co-ordinated by the university's Learning and Teaching Academy (LTA), plays a vital role in enhancing learning and teaching excellence across the institution. Through close collaboration with university staff, Student Experience Partners (SEPs) contribute valuable student perspectives to key projects - offering constructive feedback, cocreating resources and ensuring the student voice is heard and acted upon. Together, we’re shaping a richer, more responsive student experience. We’re recruiting 29 SEPs for the 2025/26 academic year. This is a paid opportunity open exclusively to students who will be studying on campus at Cardiff during 2025/26. We’re keen to hear from students across a wide range of courses, year groups and backgrounds - diversity of experience is what makes our team strong.
Your role
There’s definitely variety in this role! Each year, Partners are involved in a wide range of projects. You might work with staff to represent the student perspective on areas which impact all students, such as the digital learning environment or assessment and feedback, or you might carry out user-testing to ensure systems are fit for purpose. You might take part in a one-hour focus group to share your thoughts on proposed changes to a university policy. Alternatively, you could work closely with policy leads over several weeks or months, helping to shape and refine those changes from the ground up. On the Student Intranet you can have a look at some examples of the projects our previous Champions worked on in 24/25 and read about the impact they had. July 2025
Hours
This is a flexible job designed to fit around your studies. You’ll work approx. 6-25 hours per month, working both online (UK Only) and on campus. You’ll need to have a Right to Work Permit from Jobshop for the entirety of your contract and you must be studying on campus at Cardiff.
Training
You’ll receive training in:
- Data collection and analysis
- Presentation, report writing and communications
Transferable skills
As well as the skills developed from your training, we anticipate you’ll develop many graduate attributes, such as:
- Analytical and creative thinking
- Reflection, resilience and flexibility
- Effective communication and organisation
- Leadership and teamworking
Supporting you
We have a group of Senior Student Experience Partners who have been with the scheme for at least a year. Each Senior will be responsible for a small group of Partners, being your first point of contact if you need guidance on any aspect of the work you’ve been set. They’ll also organise additional training and social events throughout the year.
Standards of behaviour
You will be employed by Cardiff University and will therefore be expected to behave in an appropriate and professional manner at all times. You should refer to the Student Handbook you receive when you sign up for Jobshop and to the University’s Student Charter for expected standards of behaviour.
How to apply
Read our section on the student intranet to get a better understanding of what’s involved. You’ll need to sign into your Student Futures account to complete the online application form -
https://cardiff.targetconnect.net/user/app/jobs/view/W7JMW. If you can't access this
access the form from the intranet please search for the reference ID code W7JMW.
The closing date is Sunday 5th October 2025. Late applications will not be accepted.
Trosolwg
Mae’r Cynllun Partneriaid Profiad Myfyrwyr (Cynllun Myfyrwyr Hyrwyddo gynt), a gydlynir gan Academi Dysgu ac Addysgu y brifysgol), yn chwarae rhan hanfodol wrth wella rhagoriaeth dysgu ac addysgu ym mhob rhan o’r sefydliad. Drwy gydweithio’n agos â staff y brifysgol, mae Partneriaid Profiad Myfyrwyr yn cyfrannu safbwyntiau gwerthfawr y myfyrwyr i brosiectau allweddol – gan gynnig adborth adeiladol, cyd-greu adnoddau, sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed a bod y brifysgol yn gweithredu arno. Gyda'n gilydd, rydyn ni’n creu profiad cyfoethocach, sy’n ymateb i fyfyrwyr yn fwy effeithiol.
Rydyn ni’n recriwtio 29 o Bartneriaid Profiad Myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Dyma gyfle â thâl sydd ar agor i fyfyrwyr a fydd yn astudio ar y campws yng Nghaerdydd yn unig yn ystod 2025/26. Rydyn ni’n awyddus i glywed gan fyfyrwyr o ystod eang o gyrsiau, grwpiau blwyddyn a chefndiroedd – mae’r amrywiaeth o brofiad sydd gennym ni yn gwneud ein tîm yn un cryf.
Eich rôl
Mae rôl hon yn un amrywiol, mae hynny’n sicr! Bob blwyddyn, mae Partneriaid yn ymwneud ag ystod eang o brosiectau. Efallai y byddwch chi'n gweithio gyda staff i gynrychioli safbwynt myfyrwyr ar feysydd sy'n effeithio ar bob myfyriwr, fel yr amgylchedd dysgu digidol neu asesu ac adborth, neu efallai y byddwch chi'n cynnal profion defnyddwyr i sicrhau bod systemau'n addas at y diben. Efallai y cewch chi dreulio awr yn cymryd rhan mewn grŵp ffocws i rannu eich barn ar newidiadau arfaethedig i bolisïau’r Brifysgol. Fel arall, efallai y byddwch chi’n gweithio'n agos gydag arweinwyr polisi am sawl wythnos neu dros gyfnod o fisoedd, gan helpu i greu a mireinio'r newidiadau hynny o'r dechrau. Mae ambell enghraifft o'r prosiectau roedd ein Hyrwyddwyr blaenorol wedi gweithio arnyn nhw yn 24/25 ar Fewnrwyd y Myfyrwyr, lle cewch ddarllen am yr effaith a gawson nhw.
Oriau a thâl
Mae hon yn swydd hyblyg sydd wedi'i chynllunio i gydweddu â'ch astudiaethau. Byddwch chi'n gweithio tua 6- 25 awr y mis, ar-lein ac ar y campws. Bydd angen Trwydded Hawl i Weithio arnoch gan y Siop Swyddi am gyfnod llawn eich contract a rhaid i chi fod yn astudio ar y campws yng Nghaerdydd.
Hyfforddiant
Byddwch yn cael hyfforddiant ar:
- Casglu a dadansoddi data
- Cyflwyno, ysgrifennu adroddiadau a chyfathrebu
Sgiliau trosglwyddadwy
Yn ogystal â'r sgiliau a ddatblygwyd o'ch hyfforddiant, rydyn ni’n rhagweld y byddwch chi’n datblygu llawer o rinweddau graddedigion, fel y canlynol:
- Meddwl yn ddadansoddol a chreadigol
- Myfyrio, gwydnwch a hyblygrwydd
- Cyfathrebu a threfnu’n effeithiol
- Arweinyddiaeth a gweithio mewn tîm
Eich cefnogi chi
Mae gennym grŵp o Bartneriaid Profiad Myfyrwyr Uwch sydd wedi bod gyda'r cynllun ers o leiaf blwyddyn. Bydd pob Uwch-swyddog yn gyfrifol am grŵp bach o Bartneriaid, a byddan nhw’n unigolyn cyswllt cyntaf i chi os oes angen arweiniad arnoch ar unrhyw agwedd ar y gwaith a osodwyd i chi. Byddan nhw hefyd yn trefnu hyfforddiant a digwyddiadau cymdeithasol ychwanegol drwy gydol y flwyddyn.
Safonau Ymddygiad
Byddwch chi’n cael eich cyflogi gan Brifysgol Caerdydd, ac felly bydd disgwyl i chi ymddwyn mewn modd priodol a phroffesiynol bob amser. Dylech gyfeirio at y Llawlyfr Myfyrwyr a gewch pan fyddwch yn cofrestru yn y Siop Swyddi ac at Siarter Myfyrwyr y Brifysgol am y safonau disgwyliedig o ran ymddygiad.
Sut i wneud cais
Y dyddiad cau yw hanner nos ddydd Sul 5ed Hydref 2025. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau sy’n cyrraedd yn hwyr.