Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig) / the Welsh League of Youth (Incorporated)
Cymru
Full-time
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fersiwn 6 Cyhoeddwyd: Ebrill 2023 Urdd Gobaith Cymru Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 1. Nod Urdd Gobaith Cymru yw sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn, a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol. 2. Mae’r Urdd yn cynnwys corff amrywiol o bobl sydd â gwahanol safbwyntiau, gwerthoedd ac agweddau. Rydym yn ceisio hyrwyddo amgylchedd cynhwysol lle mae gwahaniaethau o'r fath yn cael eu rhannu a’u harchwilio; a lle y caiff unrhyw driniaeth annheg neu wahaniaethu ei herio a’i ddileu. Yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal a chynwysoldeb yn ein holl weithgareddau, byddwn hefyd yn hyrwyddo egwyddorion amrywiaeth ar draws yr Urdd. Mae amrywiaeth yn ychwanegu dimensiynau eraill at yr agenda cydraddoldeb, gan wneud yn siŵr bod anghenion gwahanol grwpiau neu unigolion yn cael eu gwerthfawrogi a’u dathlu. 3. O ran ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn diogelu pobl sydd â nodweddion penodol, fel a ganlyn: Oedran Anabledd Rhyw Ailbennu rhywedd (gender reassignment) Cyfeiriadedd rhywiol (sexual orientation) Priodas a phartneriaeth sifil Beichiogrwydd a mamolaeth Hil Crefydd a chred Datganiad Polisi Cydraddoldeb ac amrywiaeth Mae’r Urdd yn ymrwymedig i brif-ffrydio cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ei holl weithgareddau, yn ogystal â bodloni’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol a osodir arnom drwy ddeddfwriaeth. Mae'r datganiad polisi hwn yn adeiladu ar ein gweledigaeth a blaenoriaethau strategol. Mae'r datganiad polisi hwn yn amlinellu ein hymrwymiad i sicrhau y dylai pob aelod yr Urdd, ymgeisydd am swydd, cyflogai, gwirfoddolwyr, pobl ifanc, ymwelydd neu gontractwr cael eu trin yn deg. Mae’r amddiffyniad hwn wedi ei selio ar gydgysylltiad a chanfyddiad (association and perception) i oedran, anabledd, ailbennu rhywedd (gender reassignment), priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Dymuna’r Urdd hyrwyddo a chynnal diwylliant lle mae cyd-ymddiriedaeth a pharch yn sylfaen ar gyfer perthnasoedd gweithio tra yn y gwaith neu yn ystod gweithgareddau a chystadlaethau. Mae hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ddyletswydd ac yn her i bawb, pa un ai yn weithiwr, aelod, plentyn, person ifanc, gwirfoddolwr neu unrhyw berson neu Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fersiwn 6 Ebrill 2023 Tudalen 2 o 7 Urdd Gobaith Cymru sefydliad sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer, neu mewn partneriaeth gyda'r Urdd. Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod rhaid i bawb trin eraill yn deg a gydag urddas a pharch. Bydd yr Urdd yn ymdrin ag unrhyw faterion gwahaniaethu neu arferion amhriodol a bydd yn meithrin ymwybyddiaeth staff drwy raglen datblygu staff. Anogir holl staff, gwirfoddolwyr, aelodau a phobl ifanc i herio ac adrodd unrhyw ddigwyddiadau o wahaniaethu. Bydd yr Urdd yn: Anelu at greu amgylchedd sy'n gynhwysol i weithio, a darparu gweithgareddau ble nad yw nodweddion personol unigolyn yn creu rhwystrau iddynt mewn unrhyw agwedd. Darparu ein gwasanaethau i gyd ar sail deg a chydradd. Sicrhau bod ein holl bolisïau, gweithdrefnau a strategaethau yn adlewyrchu ymrwymiad yr Urdd tuag at gydraddoldeb. Disgwyl i holl staff, aelodau, pobl ifanc, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr i drin ei gilydd ag urddas a pharch. Disgwyl i bwyllgorau a gweithgorau i roi sylw i amrywiaeth eu haelodaeth ac i ystyried effaith eu penderfyniadau ar y rhai â nodweddion gwarchodedig. Disgwyl i holl staff, aelodau a gwirfoddolwyr i fod yn ymwybodol o faterion cydraddoldeb a chymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd unigol a chyda'i gilydd. Sicrhau bod holl ddarpariaeth ei weithgarwch yn hygyrch ac yn gynhwysol. Herio ymddygiad sy'n arwain at greu amgylchedd brawychus neu anghyfeillgar. Mabwysiadu gweithdrefnau recriwtio a dethol sy'n rhoi cyfle teg a chydradd i bawb, a hyrwyddo a hyfforddi ein staff mewn ffordd deg a chydradd. Herio ymddygiad annerbyniol a rhoi cefnogaeth i'r rhai sy'n dioddef aflonyddu (harassment). Cefnogi a goruchwylio staff er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ymateb mewn ffordd bositif i unrhyw newid neu ddatblygiad. Galluogi plant a phobl ifanc i siarad drostyn nhw’u hunain a mynegi barn a bydd yr Urdd yn gwrando ac yn llawn ystyried eu safbwyntiau. Bydd yr Urdd yn gweithredu a monitro effeithiolrwydd y polisi hwn trwy: Darparu hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer pob aelod o staff. Cynnwys materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ar agenda cyfarfodydd adrannau a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr. Casglu data personol perthnasol staff Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fersiwn 6 Ebrill 2023 Tudalen 3 o 7 Urdd Gobaith Cymru Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fersiwn 6 Ebrill 2023 Arwyddwyd Sian Lewis Prif Weithredwr Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fersiwn 6 Ebrill 2023 Tudalen 4 o 7 Urdd Gobaith Cymru Nodyn canllaw i ddiogelu hawliau plant a phobl ifanc sydd yn Trawsrywedd neu yn Anneuaidd (non binary gender). Perthnasedd i bolisïau’r Urdd 1. Polisi a chanllawiau gwrth fwlio ac aflonyddu Urdd Gobaith Cymru 2. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Urdd Gobaith Cymru 3. Polisi Amddiffyn Plant yr Urdd Pwrpas y nodyn hwn yw i godi ymwybyddiaeth o hunaniaeth rywedd a chynnig cymorth a chanllaw i sicrhau profiad cadarnhaol a chynhwysol ar draws holl gyfleoedd yr Urdd a chynnig cefnogaeth effeithiol i bobl ifanc trawsryweddol a’r rhai sy’n archwilio rhywedd ac atal trawsffobia. Bydd y canllaw hwn yn ddechreuad pro-actif i fynd i’r afael ag unrhyw gamddealltwriaeth, gwahaniaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol sy’n cael ei gyfeirio ar hyn o bryd at aelodau trawsryweddol. Bydd hefyd yn diogelu gweithwyr proffesiynol i fynd i’r afael yn effeithiol â materion mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu yn ystod yr adeg hwn a’u galluogi nhw i gael profiad addysgiadol cadarnhaol a sicrhau eu bod yn cyflawni eu llawn botensial yn ôl yr hyn a nodwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP): Bydd Urdd Gobaith Cymru yn dilyn yr egwyddorion isod wrth sicrhau profiadau cadarnhaol a chynhwysol i blant a phobl ifanc sydd yn trawsryweddol: Osgoi gweld plentyn neu berson ifanc fel problem ac yn hytrach ei weld fel cyfle i godi ymwybyddiaeth a herio stereoteip a norm rhywedd ar raddfa ehangach. Ystyried rhywedd fel sbectrwm gan gymryd ymagwedd anneuaidd tuag at rywedd. Mae rhywedd yn aml yn rhan bwysig o’n hunaniaeth ac mae datblygu ymwybyddiaeth gadarnhaol o’n hunaniaeth rywedd yn rhan o dyfu fyny. Fodd bynnag, mae hunaniaeth rywedd yn aml yn gymhleth ac mae yna sbectrwm rhywedd sy’n ehangach na dim ond gwryw a benyw. Gwrandewch ar y plentyn neu berson ifanc a’i rieni a gofalwyr a ble bynnag y bo’n bosibl, dilynwch eu harweiniad a’u dewisiadau. Nid yw rhoi cefnogaeth i blentyn neu berson ifanc traws ar unrhyw bwynt penodol mewn amser yn arwydd ei fod, neu y bydd, yn cydymffurfio ag unrhyw hunaniaeth draws nac am ddilyn llwybr trosi penodol. Ble y bo’n bosibl ceisiwch osgoi weithgareddau sy’n arwahanu rhywedd a phan na ellir osgoi hynny gadewch i’r plentyn neu’r person ifanc gael mynediad at y gweithgaredd sy’n cyfateb â’i hunaniaeth rywedd. Mae angen herio ac atal rhywiaeth, homoffobia a deuffobia – gan sicrhau fod cyd aelodau yn ymwybodol o hynny o ran darpariaeth yr Urdd a herio rhagfarn a bwlio. Wrth gefnogi plentyn sy’n cydymffurfio â rhywedd trans neu anneuaidd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r Urdd ac unigolion ailfeddwl ynghylch safbwyntiau ac arferion a dynodi pa rai sydd wedi eu derbyn fel ‘safonol’ ers amser maith. Gall hyn fod yn heriol, ond ni ddylai unrhyw plentyn neu berson ifanc gael ei wneud i deimlo mai nhw Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fersiwn 6 Ebrill 2023 Tudalen 5 o 7 Urdd Gobaith Cymru yw’r un sy’n peri problemau. Arfer da Y person ifanc sydd yn arwain ac yn ganolog a byddwn yn ei gefnogi trwy siarad, gwrando, parchu a deall eu sefyllfa. Cyfrinachedd – ond gyda chaniatâd y plentyn / person ifanc bydd gwybodaeth am ei rhywedd yn cael ei rhannu gydag eraill. Bod yn barod i roi cyngor a chefnogaeth a gwybod pwy neu pa gyrff arbenigol sydd yn medru rhoi cefnogaeth. Cadw mewn cyswllt. Geirfa – o wefan Stonewall Cymru https://www.stonewallcymru.org.uk/cy/cymorth-chyngor/geirfa Traws Trans Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, neu lle mae gwrthdaro rhwng eu rhywedd a'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo. Gall pobl draws ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) Traws, Trawsryweddol, Trawsrywiol, Anneuaidd, Anghydffurfiol o ran rhywedd, Croeswisgwr, Di-rywedd, Trydydd rhywedd, Deu-rywedd, Dyn Traws, Menyw Draws, Traws gwrywaidd, Traws benywaidd, a Genderqueer. Anneuaidd Mae deuoliaeth rhywedd yn cyfeirio at y cysyniad bod pawb yn ffitio'n syml i un o ddau gategori, sef gwrywaidd a benywaidd. Anneuaidd yw'r term ymbarél am rywun nad yw'n ffitio'n syml i'r ddeuoliaeth honno, rhywun sydd ddim naill ai yn arddel hunaniaeth wrywaidd neu fenywaidd yn unig, neu sy'n gallu arddel hunaniaeth fel y ddau. Non-binary Dyn trawsryweddol Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg ei eni, ond sy'n arddel hunaniaeth dyn ac yn byw fel dyn. Yn aml bydd y term yn cael ei fyrhau i 'dyn traws', neu weithiau FTM, sef talfyriad o'r Saesneg am 'benyw-i-wryw'. Transgender man Dysfforia rhywedd Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pan fydd rhywun yn profi anesmwythder neu drallod oherwydd bod gwrthdaro rhwng eu hunaniaeth rhywedd a'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Hwn hefyd yw'r diagnosis clinigol ar gyfer rhywun nad yw'n teimlo'n gyfforddus gyda'r categori rhywedd y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fersiwn 6 Ebrill 2023 Gender dysphoria Tudalen 6 o 7 Urdd Gobaith Cymru Hunaniaeth rhywedd Ymdeimlad mewnol rhywun o'u rhywedd nhw eu hunain, boed hynny'n wrywaidd, yn fenywaidd neu'n rhywbeth arall (gweler y term 'anneuaidd'), a all fod yn cyfateb, neu ddim yn cyfateb, i'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Gender identity Menyw drawsryweddol Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw gwrywaidd adeg ei geni, ond sy'n arddel hunaniaeth menyw ac yn byw fel menyw. Yn aml bydd y term yn cael ei fyrhau i 'menyw draws', neu weithiau MTF, sef talfyriad o'r Saesneg am 'gwryw-i-fenyw'. Transgender woman Rhyngryw Intersex Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a allai fod â nodweddion biolegol y ddau ryw, neu rywun nad yw eu nodweddion biolegol yn cyd-fynd â rhagdybiaethau cymdeithasol am yr hyn sy'n gwneud rhywun yn wrywaidd neu'n fenywaidd. Gall pobl ryngryw arddel hunaniaeth wrywaidd, hunaniaeth fenywaidd neu hunaniaeth anneuaidd. Mae Stonewall yn gweithio gyda grwpiau rhyngryw i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth i bartneriaid a rhanddeiliaid am feysydd lle mae pobl ryngryw yn profi anfantais ond, ar ôl trafod gydag aelodau o'r gymuned ryngryw, nid yw'n cynnwys materion i bobl ryngryw fel rhan o'i chylch gorchwyl ar hyn o bryd. Rhywedd amrywiol Rhywun nad yw'n cydymffurfio ag ymddygiad a rolau mae cymdeithas yn eu disgwyl ar sail y categori rhywedd y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Mae'r term yma'n cael ei ddefnyddio'n aml yng nghyd-destun plant neu bobl ifanc. Gender variant Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fersiwn 6 Ebrill 2023 Tudalen 7 o 7