Cyflog: £27,423 y flwyddyn yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos
Contract: Tymor Penodol hyd at fis Medi 2028
Allwch chi helpu’r Groes Goch Brydeinig i ddarparu cymorth hanfodol i geiswyr lloches, ffoaduriaid, a mewnfudwyr sy’n agored i niwed ar draws Cymru? Fel rhan o’n tîm Cefnogi Ffoaduriaid ac Adfer Cysylltiadau Teuluol, byddwch yn cydlynu gwaith achos o ansawdd uchel ac yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr cyfreithiol, partneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau mynediad at gyngor cyfreithiol a gwasanaethau hanfodol.
Mae’r rôl hon wedi’i hariannu gan y Fenter Cyfiawnder Gyda’n Gilydd hyd at fis Medi 2028.
Sut mae diwrnod ym mywyd Cydlynydd Achosion yn edrych? Yn eich rôl newydd byddwch yn:
- Cefnogi ceisiadau mewnfudo drwy gasglu tystiolaeth a chydweithio â chynrychiolwyr cyfreithiol ar gyflwyniadau.
- Darparu gwaith achos sensitif, arbenigol ac o ansawdd uchel i bobl mewn sefyllfaoedd bregus.
- Cynllunio a darparu cymorth wyneb yn wyneb ac o bell ledled Cymru.
- Rheoli llwyth gwaith yn effeithiol a gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm deinamig.
- Hwyluso mynediad at gymorth statudol a lleol yn seiliedig ar hawliau a chymwysterau.
- Eirioli'n broffesiynol ar ran cleientiaid i amddiffyn eu hawliau.
- Hyrwyddo a datblygu'r gwasanaeth ar y cyd â phartneriaid mewnol ac allanol.
- Defnyddio systemau TG yn hyderus a chyfathrebu'n glir, gan gynnwys drwy gyfieithwyr.
Oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad canlynol i fod yn Gydlynydd Achosion llwyddiannus?
- Cymwysedig Lefel 1 IAA (Asylum a Immigration) neu'n gweithio tuag at hynny.
- Gwybodaeth gadarn am hawliau llocheswyr a ffoaduriaid a'r systemau cymorth perthnasol.
- Profiad o reoli llwythi gwaith cymhleth a gweithio gyda phobl mewn argyfwng.
- Sgiliau mewn gweithio mewn partneriaeth a chefnogi gwirfoddolwyr.
- Sgiliau cyfathrebu, eiriolaeth a threfnu rhagorol.
- Yn hyderus gyda TG a defnyddio cronfeydd data, taenlenni ac e-bost.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 ar Dydd Gwener 26ain o Fedi.
Yn gyfnewid am eich ymrwymiad ac arbenigedd, byddwch yn cael:
- Gwyliau:36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) + opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol.
- Cynllun pensiwn:Hyd at 6% cyfraniad pensiwn.
- Gweithio hyblyg:Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer eich dull gwaith dewisol.
- Dysgu a Datblygu:Amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa + dysgu cynhwysfawr.
- Gostyngiadau:Mynediad i Gerdyn Gostyngiadau Blue Light a llwyfan buddion gweithwyr.
- Cefnogaeth Llesiant:Mynediad at gymorth iechyd meddwl a llesiant.
- Gweithio mewn Tîm:Cefnogi ein cenhadaeth mewn tîm cydweithredol.
- Cycle2Work:Llogi beic drwy’r cynllun.
- Benthyciad tocyn tymor:Benthyciad di-log ar gyfer costau teithio i’r gwaith.
Yn y Groes Goch Brydeinig, rydym yn falch o’n gweithlu amrywiol, ac yn sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol i’n holl staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau y gall ein timau ddod â’u hunaniaeth wirioneddol i’r gwaith heb risg nac ofn o wahaniaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy adrodd data rheolaidd, a chefnogaeth ein Rhwydwaith Hil ac Cydraddoldeb Mewnol (REEN), Rhwydwaith LGBT+, ein Rhwydwaith Anabledd a Llesiant (DAWN), Rhwydwaith Rhyw, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Staff Ifanc.
Gyda’n gilydd, ni yw ymatebwyr brys y byd.