INTERLINK RCT
24,568 per year
Abercynon
Part-time
8th October 2025

Customer Service Advisor (Part time)

Location: Abercynon (Hybrid)

Salary: £24,568 per annuum (£12,284 pro rata)

Hours: Part-Time – 17.5 hours per week

Tenure: Permanent

Closing Date:  Midnight on Wednesday, 8th October 2025

Interviews: Tuesday, 21st  October 2025

This is an excellent opportunity for someone who is proactive and eager to deliver outstanding customer focused service through multi-channel contact from a range of customers. The role requires a quality approach to resolving queries responsively and in a friendly manner and getting it right first time.

The Customer Services Advisor will work alongside the officers within the wider Housing and Communities directorate to provide technical information relating to customer queries around repairs and maintenance, provide support to customers with all tenancy management queries and support excellent customer service through communication. In addition, the Customer Services Advisor will lead on the administration of Physical Adaptation Grants, work closely with Cwm Taf Care & Repair, contractors and Welsh Government, as well as ensuring component records and servicing information is updated.

We are looking for someone who:

  • Has ability to speak and write in Welsh
  • Has strong customer service acumen, including the ability to develop trusting, respectful relationships with tenants and customers in a multi-channel-based setting.
  • Is empathetic and always understanding, positive and professional, even in challenging circumstances.
  • Has excellent interpersonal skills and can interact with a diverse group of people including tenants, local authorities, social services, police, contractors and colleagues.
  • Able to support customers to make rent payments and promote a payment culture and work closely with the Housing Officers as well as deal with applicants that have been offered a home in a fair and clear manner.
  • Contributes effectively and positively to the team; ensuring that all people play their part in creating excellent customer services, and a positive and team working environment where all skills and capacity are maximised.

Please visit our website for further detail on the role and information on how to apply.

We value diversity in all its facets, including sex, disability, age, ethnicity, sexual orientation and gender identity. When it comes to finding a diverse balance for our senior positions, we have decided to specifically address race equality. Candidates from ethnic minority backgrounds who fulfil the essential role criteria will be guaranteed an interview. We are also committed to the Disability Confident Scheme. If you have a disability, you will be guaranteed an interview if you meet the essential role criteria.

For an informal chat about the role please contact Sharon Coleman at scoleman@cynon-taf.org.uk  

Cymraeg:

Lleoliad: Abercynon (Hybrid)

Cyflog: £24,568 y flwyddyn (£12,284 pro rata)

Oriau: Rhan-amser, 17.5 awr (2.5 diwrnod) yr wythnos

Daliadaeth: Parhaol

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner nos ddydd Mercher, 8 Hydref 2025

Mae cyfweliadau’n debygol o gael eu cynnal ar  Dydd Mawrth, 21 Hydref 2025

Dyma gyfle rhagorol i rywun sy’n rhagweithiol ac yn awyddus i ddarparu gwasanaeth rhagorol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, trwy gysylltiad aml-sianel gan amrywiaeth o gwsmeriaid. Mae’r rôl yn gofyn am ddull o safon o ddatrys ymholiadau’n ymatebol, mewn ffordd gyfeillgar, yn iawn y tro cyntaf. Bydd y Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid yn gweithio ochr yn ochr â’r swyddogion o fewn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ehangach i ddarparu gwybodaeth dechnegol ynghylch ymholiadau cwsmeriaid sy’n ymwneud ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw, darparu cymorth i gwsmeriaid â phob ymholiad am reoli tenantiaeth a chefnogi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid trwy gyfathrebu. At hynny, bydd y Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid yn arwain y gwaith o weinyddu Grantiau Addasiadau Ffisegol, yn gweithio’n agos gyda Gofal a Thrwsio Cwm Taf, contractwyr a Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau bod cofnodion cydrannau a gwybodaeth gwasanaethu’n cael eu diweddaru. Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol:

  • Y gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg
  • Dawn gref o ran gwasanaeth cwsmeriaid, gan gynnwys y gallu i ddatblygu perthnasoedd dibynadwy a pharchus gyda thenantiaid a chwsmeriaid mewn lleoliad sydd â chyd-destun aml-sianel.
  • Dull empathig a bob amser yn dangos dealltwriaeth, yn gadarnhaol ac yn broffesiynol, hyd yn oed o dan amgylchiadau heriol.
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a gallu i ryngweithio â grŵp amrywiol o bobl, gan gynnwys tenantiaid, awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, contractwyr a chydweithwyr.
  • Gallu cefnogi cwsmeriaid i dalu rhent a hyrwyddo diwylliant talu a gweithio’n agos gyda’r Swyddogion Tai, yn ogystal â delio ag ymgeiswyr y cynigwyd cartref iddynt yn deg ac yn glir.
  • Cyfrannu’n effeithiol ac yn gadarnhaol at y tîm, gan sicrhau bod pawb yn chwarae eu rhan mewn creu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, ac amgylchedd gwaith tîm cadarnhaol sy’n gwneud y mwyaf o holl sgiliau a gallu pobl.

Ewch i’n gwefan i gael rhagor o fanylion am y rôl a gwybodaeth am sut i wneud cais.

Rydym yn rhoi pwys ar bob agwedd ar amrywiaeth, gan gynnwys rhyw, anabledd, oedran, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Wrth ddod o hyd i gydbwysedd amrywiol i’n huwch swyddi, rydym ni wedi penderfynu mynd i’r afael yn benodol â chydraddoldeb hiliol. Gwarentir cyfweliad i ymgeiswyr o gefndir ethnig lleiafrifol sy’n bodloni meini prawf hanfodol y rôl. Rydym yn ymrwymo hefyd i’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd, bydd cyfweliad yn cael ei warantu i chi os byddwch yn bodloni meini prawf hanfodol y rôl.

I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Sharon Coleman ar scoleman@cynon-taf.org.uk  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Hanner nos ddydd Mercher, 8 Hydref 2025

Mae cyfweliadau’n debygol o gael eu cynnal ar Dydd Mawrth, 21 Hydref 2025

Customer Service Advisor - INTERLINK RCT | Work In Charities