- Vacancy Type
- Permanent/Full Time
- Category
- Curatorial
(Curatorial) - Salary Range
- £60,685.13 - £65,524.59
- Pro Rata Salary
- £60,685.13 - £65,524.59
- Hours
- 35
- Welsh Language Level Requirement
- Desirable
- Job Summary
-
Mae Amgueddfa Cymru yn awyddus i benodi Pennaeth Sŵoleg newydd i arwain tîm curadurol profiadol sy'n cynnal gwaith ymchwil a rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd arloesol. Mae'r rôl arwain strategol hon yn gyfle i siapio sut mae amgueddfa genedlaethol Cymru yn mynd i'r afael â heriau bioamrywiaeth ac amgylcheddol byd-eang trwy ein casgliadau o'r radd flaenaf ac ymchwil arloesol.
Byddwch yn arwain tîm o guraduron ac ymchwilwyr, yn ennill nawdd gan gyrff fel UKRI a'r Gymdeithas Frenhinol ac yn sicrhau bod ein casgliadau sŵoleg yn parhau i fod yn berthnasol ac yn hygyrch. Fel Arweinydd Project ar brojectau ymchwil effaith-uchel, byddwch yn hyrwyddo cydweithredu rhyngddisgyblaethol ar draws y gwyddorau, y celfyddydau a'r dyniaethau, gan gefnogi ein gweledigaeth Strategaeth 2030 yn uniongyrchol.
Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys datblygu'r casgliadau, rheoli cyllidebau ymchwil, cyhoeddi allbynnau academaidd a meithrin partneriaethau â sefydliadau addysg uwch. Byddwch yn dirprwyo ar ran y Pennaeth Adran yn ôl yr angen, yn mentora staff ac yn hyrwyddo arferion cynhwysol sy'n adlewyrchu ein cynulleidfaoedd amrywiol.
Rydym yn awyddus i benodi sŵolegydd cymwys â gradd Doethuriaeth (neu gyfwerth) sydd â phrofiad o reoli casgliadau amgueddfeydd, arwain tîm ac ymgeisio'n llwyddiannus am grantiau.
Ymunwch â ni i sicrhau bod gwybodaeth wyddonol yn sail i ymgysylltu â chynulleidfaoedd am heriau amgylcheddol, a hyrwyddo safle Cymru fel arweinydd ym maes ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth.
Dyddiad Cau: 31 Hydef 2025 @ 5pm
Amgueddfa Cymru - Museum Wales seeks a new Head of Zoology to lead an experienced curatorial team driving forward innovative research and public engagement programmes. This strategic leadership role offers the opportunity to shape how Wales' national museum addresses global biodiversity and environmental challenges through world-class collections and cutting-edge research.
You will lead a team of curators and researchers, securing funding from bodies such as UKRI and the Royal Society while ensuring our zoology collections remain relevant and accessible. As Project Lead on high-impact research projects, you'll champion interdisciplinary collaboration across sciences, arts, and humanities, directly supporting our Strategy 2030 vision.
Key responsibilities include collection development, managing research budgets, publishing academic outputs, and fostering partnerships with higher education institutions. You'll deputise for the Head of Department as required, mentor staff and promote inclusive practices that reflect our diverse audiences.
We seek a PhD (or equivalent) qualified zoologist with proven experience in museum collections management, team leadership, and successful grant applications.
Join us in mobilising scientific knowledge to engage audiences with environmental challenges while advancing Wales' position as a leader in biodiversity research and conservation.
Closing Date 31 October @ 5pm