Are you a good communicator looking for flexible, interesting telephone work to carry out from home?
Beaufort Research, Wales’ leading social and marketing research agency, is recruiting people to join our team of telephone interviewers working remotely at home.
You will be working on a wide range of interesting and varied surveys for clients such as government bodies, public organisations and large businesses. You will be carrying out interviews over the phone and using a tablet to find out the public’s views on different topics to help clients develop policies or products, assess the effectiveness of their advertising and communications and measure customer satisfaction.
There is absolutely no selling involved - Beaufort is a member of the Market Research Society (MRS) and all work is carried out strictly in accordance with the MRS ethical Code of Conduct.
We are looking to recruit confident, motivated, and well-spoken people of all ages and all backgrounds, with excellent communications skills preferably in or around the Cardiff area. Previous experience of telephone interviewing is useful but not essential - full training will be provided if no previous market research experience.
Somewhere quiet and comfortable to work is essential, along with excellent broadband. We will supply you with a tablet, headphones and all the equipment you need to carry out the job from home.
***Fluency in Welsh is an advantage as we run many surveys bilingually, but we also welcome applications from non-Welsh speakers***
***Our current shifts are running between 9.30 am – 5.30 pm***
We are looking for people who can commit to a minimum of three day shifts per week. While the work is flexible, reliability and good performance are essential.
Pay is linked to performance, with the opportunity to earn an enhanced rate for good performance. The rates of pay are:
Basic rate - £13.68 per hour (including holiday pay)
Enhanced rate - £15.35 (including holiday pay)
To apply, please complete the application form below:
https://online1.snapsurveys.com/tx8h2q
The closing date for this job advert will be Friday, 26th September. Training will take place immediately.
Ydych chi'n gyfathrebwr da sy'n chwilio am waith dros y ffôn diddorol a hyblyg i'w gynnal gartref?
Mae Beaufort Research, asiantaeth ymchwil cymdeithasol a marchnata mwyaf blaenllaw Cymru, yn recriwtio pobl i ymuno â'r tîm o gyfwelwyr dros y ffôn i weithio o bell gartref.
Byddwch yn gweithio ar amrywiaeth eang o arolygon diddorol ac amrywiol i gleientiaid megis cyrff y llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus a busnesau mawr. Byddwch yn cynnal cyfweliadau dros y ffôn ac yn defnyddio tabled i ganfod barn y cyhoedd ar wahanol bynciau i helpu'r cleientiaid hyn ddatblygu polisïau neu gynnyrch, asesu effeithiolrwydd eu hysbysebu a'u cyfathrebu a mesur bodlonrwydd y cwsmer.
Does dim gwaith gwerthu o gwbl ynghlwm â'r swydd - mae Beaufort yn aelod o'r Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad, ac mae'r holl waith yn cael ei gwblhau yn unol â Chod Ymddygiad moesol MRS.
Rydym eisiau recriwtio pobl gwrtais, llawn cymhelliant a hyder o bob oed a chefndiroedd, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddai profiad blaenorol o gyfweld dros y ffôn yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol - bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu os nad oes gennych brofiad ymchwilio i'r farchnad blaenorol.
Mae cael rhywle tawel a chyfforddus i weithio yn hanfodol, ynghyd â band eang rhagorol. Byddwn yn darparu tabled, clustffonau a'r holl offer sydd eu hangen arnoch i wneud y swydd o gartref.
Mae rhuglder yn y Gymraeg o fantais gan ein bod yn cynnal rhai arolygon dwyieithog, ond rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer sifftiau (9.30 am – 5.30 pm).
Rydym yn chwilio am bobl all ymrwymo i leiafswm o dair shifft yr wythnos. Tra bod y gwaith yn hyblyg, mae dibynadwyedd a pherfformiad da yn hanfodol.
Mae tâl yn gysylltiedig â pherfformiad, gyda'r cyfle i ennill graddfa uwch am berfformiad da. Y gyfradd tâl yw:
Graddfa sylfaenol - £13.68 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Graddfa uwch - £15.35 (yn cynnwys tâl gwyliau)
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen yma:
https://online1.snapsurveys.com/tx8h2q
Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad dros y ffôn.